Beiciwr 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i feiciwr 61 oed farw mewn gwrthdrawiad ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau.
Mae'r llu wedi cadarnhau mai Donald Mitchell o Sant-y-Brid, ym Mro Morgannwg fu farw yn y digwyddiad ar yr A48 yn ymyl Trelales am 17:15.
Roedd y beic wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda char Volvo S40 glas. Bu farw Mr Mitchell yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn lleol 66 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus. Mae'n dal i gael ei holi mewn gorsaf heddlu.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod "yn briod â Sian ers 34 o flynyddoedd ac yn dad i dair merch, Hannah, Eluned and Siriol".
Roedd yn gweithio fel llyfrgellydd mewn ysgol ddiwinyddiaeth ym Mryntirion, ger Trelales.
"Roedd Donald yn seiclwr brwd ac yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i deulu ar ôl ymddeol y flwyddyn nesaf," medd y teulu yn eu datganiad.
"Mae ei farwolaeth drist yn golled ddigymar i'w deulu, nad sy'n galaru heb obaith."
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad, yn enwedig unrhyw un sydd â lluniau dash-cam o'r digwyddiad, neu'r modd yr oedd y Volvo'n cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.
Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000456245.