Dynes 108 oed, a oroesodd ffliw Sbaen, yn derbyn brechlyn
- Cyhoeddwyd

Mary Keir yn derbyn brechlyn yn erbyn Covid-19 yn 108 oed
Mae un o fenywod hynaf Cymru - Mary Keir, 108 oed - ymhlith rhai o'r preswylwyr cartrefi gofal cyntaf i dderbyn brechlyn Covid-19 newydd.
Roedd Mary ymhlith 37 o drigolion cartref gofal Awel Tywi yn Llandeilo, Sir Gâr, i dderbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer-BioNtech ddydd Iau.
Dywedodd ei bod yn rhyddhad cael y pigiad, a'i bod yn teimlo'n "llawer mwy diogel a hapus".
Dyma ail brofiad y cyn-nyrs o bandemig, ar ôl iddi fyw trwy'r achosion o ffliw Sbaen yn 1916.
"Roeddwn yn hapus iawn i gael y brechlyn. Rydyn ni wedi bod yn aros iddo fod yn barod", meddai Ms Keir, a oedd yn arfer gweithio fel uwch-nyrs yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd.
"Diolch i Dduw am y bobl sydd wedi gallu ei gael i ni. Rydyn ni'n lwcus iawn. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n llawer mwy diogel a hapus."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daw Mary'n wreiddiol o Dyddewi yn Sir Benfro, ond yn ddiweddarach bu'n byw yn Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin cyn symud i Awel Tywi bron i naw mlynedd yn ôl.
Pan gysylltodd y tîm brechu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â'r cartref gofal i ofyn i staff a thrigolion a fyddent yn barod i gael y brechlyn, llaw Mary oedd y gyntaf i fyny.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Hywel Dda: "Er bod sesiwn brechu cartrefi gofal llwyddiannus heddiw yn foment arwyddocaol i ni yma yng ngorllewin Cymru, rydym yn agosáu at gael ei gyflwyno i breswylwyr cartrefi gofal wrth i ni ddysgu sut i gludo a gweinyddu'r brechlyn arbennig o anodd hwn i ffwrdd o'n prif ganolfan frechu.
"Rydyn ni'n gwybod y bydd llawer o'n preswylwyr cartrefi gofal yn awyddus i gael gafael ar y brechlyn cyn gynted â phosib.
"Nid dyma ddechrau cyflwyno'r brechlyn i holl breswylwyr cartrefi gofal eto, ond bydd bod yn rhan o'r peilot hwn yn ein rhoi mewn lle da i ddechrau unwaith y byddwn ni wedi dysgu ohono."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020