Byrddau gwybodaeth i gofeb 'bwystfil' caethwasiaeth
- Cyhoeddwyd
Fe fydd byrddau gwybodaeth yn cael eu gosod ger cofeb i'r milwr Sir Thomas Picton yng Nghaerfyrddin yn cyfeirio at ei gysylltiadau gyda chaethwasiaeth.
Gwnaed y penderfyniad gan fwrdd gweithredol Cyngor Sir Gâr, gyda phenderfyniad tebyg ar gyfer llun o Picton yn hen adeilad Guildhall yn y dref.
Fe fydd y byrddau gwybodaeth hefyd yn cyfeirio at gefndir milwrol Picton, a'i farwolaeth ym mrwydr Waterloo yn 1815.
Byddant hefyd yn cyfeirio at ddigwyddiadau eraill yn lleol fel terfysgoedd Beca ac yn cael eu codi o fewn 12 mis
Daw'r penderfyniad yn dilyn sefydlu tasglu gan y cyngor ar ôl cwynion am gofeb Picton.
Ar ôl cyfnod ymgynghorol am y gofeb i Sir Thomas Picton, fe wnaeth y cyngor dderbyn 2,470 o ymatebion.
Roedd 1,613 yn dweud na ddylid cymryd unrhyw gamau, tra bod 744 o blaid newidiadau.
Mae Picton wedi cael ei ddisgrifio fel "bwystfil creulon oedd yn cam-drin caethweision".
Mae cerfluniau a chofebion i bobl oedd yn ymwneud â chaethwasiaeth yn destun dadleuon mewn sawl tref a dinas.
Daw hyn ar ôl i gefnogwyr ymgyrch Black Lives Matter ym Mryste dynnu cerflun o Edward Colston i lawr a'i daflu i ddoc y ddinas.
Cafodd Picton ei glodfori fel arwr cenedlaethol a lleol yn dilyn brwydr Waterloo yn 1815.
Ond fel llywodraethwr Trinidad rhoddodd gosbau llym i'r caethweision a oedd yn gweithio yn y caeau siwgr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2015