'Ni fyddai ein mab naw oed yn goroesi Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Macsen ar beiriant awyruFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Macsen Williams yn anadlu gyda chymorth awyru

Roedd cyhoeddiad ddydd Sadwrn diwethaf fod cyfnod clo newydd yn dod i rym o fewn oriau yn ergyd i bawb oedd wedi edrych ymlaen at bum niwrnod o gyfyngiadau llai caeth dros gyfnod y Nadolig.

Mae'n dal yn bosib i breswylwyr dwy aelwyd ffurfio swigen a dathlu diwrnod Nadolig eleni dan yr un to, a gall person sy'n byw ar ben ei hun ymuno â'r swigen honno.

Ond i'r unigolion hynny sydd wedi treulio misoedd eleni'n cysgodi yn eu cartrefi oherwydd eu hoedran neu gyflyrau iechyd, y "dewis mwyaf diogel... yw peidio â bod yn rhan o swigen Nadolig", yn ôl cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Y dewis anodd, felly, i sawl un eleni yw cadw draw o'u hanwyliaid dros ŵyl eleni.

'Byddai Covid yn lladd ein mab naw oed'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Matthew a Lisa Williams gyda'u meibion, Macsen, sy'n naw oed ac Ioan, sy'n 12

Mae'r pandemig wedi bod yn heriol i'r teulu Williams o Abertawe - Matthew, Lisa a'u meibion 12 a 9 oed, Ioan a Macsen.

Oherwydd cellwyriad geneteg prin, mae Macsen yn byw gyda sawl cyflwr niwrolegol, gan gynnwys parlys ymenyddol cwadripledig, epilepsi, nam ar y golwg a thrafferthion anadlu.

Nid yw'n gallu eistedd, sefyll, rowlio na cherdded heb gymorth. Mae'n cael hyd at 40 o ffitiau mewn diwrnod ac mae'n cael ei fwydo gyda thiwb.

Mae'r teulu'n cysgodi i bob pwrpas ers mis Ionawr wedi i Macsen gael ei daro mor wael gyda heintiau'r frest nes bod rhaid i anesthetyddion ddal ei ben am oriau ar y tro i helpu iddo anadlu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Macsen, chwith, a Ioan yn gallu gweld eu neiniau a'u teidiau eleni

"Gawson ni ryw fath o flas sut fyddai e petasai'n cael Covid," meddai Matthew. "Petasai'n ei gael e nawr, 'sa i'n siŵr y bydde'n gallu brwydro yn ei erbyn."

Mae'r teulu wedi arfer treulio diwrnod Nadolig ar ben eu hunain, ond maen nhw'n gweld neiniau, teidiau a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl. Ni fydd hynny'n bosib eleni.

"Mae'n wirioneddol drist i'r plant," meddai Matthew.

"Maen nhw'n addoli'u neiniau a theidiau hefyd, felly mae'n wirioneddol drist gwybod nad ydyn nhw am eu gweld yn y cnawd.

Ychwanegodd: "Mae Macsen yn caru'r Nadolig yn yr ysgol. Mae wedi cael blwyddyn gron heb ysgol - ei hoff le yn y byd."

'Ro'n i mor isel'

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matthew a Lisa â heriau iechyd eu hunain

Ar ben heriau delio ag anghenion mor gymhleth â rhai Macsen, mae Matthew a Lisa â chyflyrau iechyd eu hunain.

Mae Matthew'n byw gyda chlefyd geneteg prin Charcot-Marie-Tooth, sy'n golygu ei fod yn colli'r nerth yn ei goesau a'i freichiau ac yn aml wedi ymlâdd.

Mae Lisa'n dioddef gyda meigryn - hyd at 25 o weithiau mewn mis heb driniaeth - ac endometriosis, sy'n gallu achosi poen annioddefol a misglwyf trwm eithriadol.

Yn gynharach yn y pandemig, fe wnaeth Ioan ddal annwyd, a gorfod hunan-ynysu yn ei ystafell wely am bythefnos rhag iddo heintio Macsen.

Gofalodd Lisa am Ioan tra bod Matthew'n gofalu am Macsen mewn rhan arall o'r tŷ.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Nadolig eleni yn wahanol i'r teulu Williams, gyda'r pandemig yn gefndir i'r dathlu

Tua diwedd y pythefnos hwnnw, cafodd Lisa annwyd a bu'n rhaid i Matthew barhau i ofalu am Macsen ar ben ei hun am bythefnos arall.

"Ro'n i mor isel erbyn diwedd y pedair wythnos, nes i dorri lawr," meddai.

Camodd yr elusen Tŷ Hafan i'r adwy a gofalu am Macsen am ryw wythnos fel bod ei rieni'n cael hoe.

"Dyma ein bywydau ers naw mlynedd," meddai Matthew. "Pan ry'ch chi'n meddwl eich bod wedi cyrraedd y gwaethaf, mae rhywbeth arall yn digwydd."

Beth ydy'r cyngor newydd ar gysgodi?

Ni ddylai pobl yn y grŵp risg categori uchel fynd i'r gwaith na'r ysgol y tu allan i'w cartref o hyn ymlaen, yn ôl y cyngor newydd.

Mae hynny'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach.

Mae'r gweinidog iechyd yn dweud bod pobl yn y grŵp yn cael parhau i fynd allan i ymarfer corff ac i apwyntiadau meddygol.

Y cyngor yw osgoi creu swigen Nadolig, ond os am wneud, yna fe ddylen nhw leihau cysylltiadau cymaint â phosib, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau sydd â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebau yn rheolaidd a chadw dau fetr oddi wrth bobl eraill.