Adref wedi llifogydd: 'Ofn i'r dŵr ddod mewn eto'

  • Cyhoeddwyd
Coeden Nadolig y teulu Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Addurn Nadolig arbennig sy'n adlewyrchu'r teulu ar ddiwedd blwyddyn heriol

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb ond i rai teuluoedd mae'n un i'w hanghofio - yn bennaf oherwydd y difrod i'w cartrefi yn sgil Storm Dennis.

Mae Rebecca Morgan yn falch o fod yn ôl adref gyda'i gŵr a'i theulu ifanc wedi misoedd mewn tŷ gosod tra bod gwaith atgyweirio'n mynd rhagddo, ac mae wedi cael pleser o addurno ar gyfer y Nadolig.

Ond ag Afon Taf gyferbyn â'u cartref ym Mhontypridd, mae un o'i phlant yn aros am seicotherapi, gymaint yw'r ofn y daw'r dŵr eto.

Ac mae Rebecca ei hun yn gorfod cuddio'i gwir deimladau rhag y plant, gan gadw golwg agos ar lefelau'r afon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rebecca Morgan fod rhaid aros yn gryf "er mwyn y plant"

"Fedra'i ddim dangos iddyn nhw bod e'n effeithio arna'i, oherwydd bydd yn effeithio arnyn nhw fwy fyth wedyn," meddai'r gweithiwr gofal cymunedol 29 oed.

"Rwy'n diodde' gyda fy iechyd meddwl beth bynnag, a 'sa i mo'yn iddyn nhw ddioddef. Rhaid i mi gadw 'mhen, does?"

Fe welodd Rebecca, ei gŵr Matthew a'u plant - Regan, Max ac Ayda sy'n 12, chwech a dyflwydd oed - ddŵr brwnt yr afon yn llifo i'r tŷ ym mis Chwefror.

Roedd anadlu'n anodd oherwydd arogl mwd a charthion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref Rebecca Morgan gyferbyn ag Afon Taf

Bu'n rhaid cerdded trwy'r dŵr rhewllyd, gan achub ond llond llaw o eitemau, fel lluniau priodas a hoff offer cyfrifiadurol y plant.

Ni fu'n bosib dychwelyd tan fis Tachwedd.

Ond mae'r tŷ'n teimlo'n dra gwahanol erbyn hyn - roedd cyfle i symud waliau a chreu cegin fwy fel rhan o'r gwaith atgyweirio.

Aeth yr addurniadau Nadolig i fyny bron yn syth er mwyn dathlu bod adref.

"Do'n i methu aros.... meddyliais: cartref newydd, addurniadau Nadolig newydd, roedd rhaid iddyn nhw fynd lan."

Ond dyw tinsel a goleuadau heb chwalu atgofion hunllefus gweld lefel y dŵr yn codi fesul gris.

Pan symudodd y teulu i'w tŷ gosod, roedd gan Max ormod o ofn i gael bath.

"Mae'n dal i ddiodde'n wael," meddai ei fam. "Mae wedi cael ei gyfeirio am help ychwanegol.

"Mae'n ofn i'r dŵr ddod mewn eto, oherwydd tro nesa' fe all fod yn waeth, oni ddim? Dy'n ni jest ddim yn gwybod."

Ar ddyddiau glawog, a llif cyflym yr afon o fewn golwg i'r tŷ, mae Rebecca'n cau'r llenni i osgoi achosi panig i'r plant, yn enwedig Max.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Roderick, ei chwaer, a'u rhieni yn byw mewn tri thŷ ar yr un stryd ym Mhentre

Mae Helen Roderick "wrth ei bodd" gyda'r newidiadau i'w chartref, ond dyw hynny ddim yn ei hatal rhag hiraethu am yr hyn a fu.

"A fyddwn i'n dymuno cael fy hen dŷ yn ôl? Byddwn, oherwydd hwnna oedd fy hen dŷ i a ro'n i'n ei garu," meddai.

"Ond yn y pen draw, ni cha' i mohono'n ôl felly dyma'r peth gora' agosaf ac rwy'n falch 'dag e."

Oherwydd y difrod wedi i'r llifogydd daro ardal Pentre, bu'n rhaid i Helen, ei rhieni a'i chwaer adael eu cartrefi unigol.

Gwahanwyd tair aelwyd sydd wedi arfer byw ar yr un stryd wrth iddyn nhw orfod rhentu tai dros dro.

Maen nhw bellach yn gymdogion unwaith yn rhagor, ac yn falch bod modd iddyn nhw gael cinio Nadolig o fewn swigen dan y rheolau coronafeirws.

Ond mae hwythau, fel y teulu Morgan ym Mhontypridd, yn poeni ynghylch y posibilrwydd o ragor o lifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Newydd ddychwelyd adref wedi'r llifogydd mae Helen Roderick (dde)

"Rydyn ni wedi cael sicrwydd na ddigwyddith eto, ond rydyn ni'n dal yn poeni bob dydd," meddai Helen.

"Mae yna bympiau o hyd rownd y gornel, lorïau'n mynd yn ôl ac ymlaen yn sortio'r cwteri.

"S'neb yn cymryd y bai am beth ddigwyddodd, sef y peth anoddaf i ni."

Ond mae'r teulu'n bwriadu rhoi'r fath bryderon o'r neilltu am ychydig ddyddiau.

"Ry'n ni jest am aros o fewn ein bybl bach ein hunain a chael Nadolig ffantastig."

Pynciau cysylltiedig