'Rhaid datrys pwy sy'n gyfrifol am lifogydd eleni'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau o'r newydd am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i lifogydd difrifol yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni.
Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am gael un corff yn unig i fod yn gyfrifol am ddelio gyda llifogydd, i wario mwy ar eu hatal, ac i roi iawndal i ddioddefwyr.
Bydd yna drafodaeth ynghylch y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad yn y Senedd wedi i bron 6,000 o bobl arwyddo deiseb.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cymryd "camau sylweddol" er mwyn dysgu o lifogydd eleni.
'Datrys dryswch'
Roedd Rhondda Cynon Taf ymhlith y siroedd i ddioddef waethaf wedi i Stormydd Ciara, Dennis a Jorge daro Cymru ym mis Chwefror.
Fe effeithiodd y stormydd ar bron i 1,500 o gartrefi a busnesau'r sir, a bu'n rhaid i lawer o bobl adael eu cartrefi.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad eu hunain i'r hyn ddigwyddodd yno.
Mae yna "lawer o ddryswch ynghylch achos neu achosion y llifogydd", yn ôl aelod Rhondda yn y Senedd, Leanne Wood.
"Mae cael dull aml-asiantaethol, pob un â'i agwedd wahanol ei hun ar yr hyn a ddigwyddodd a'u hagenda eu hunain, wedi creu sefyllfa lle mae llinellau cyfrifoldeb yn aneglur," meddai.
"Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn datrys y dryswch hwn ac yn mynd at galon yr hyn a ddigwyddodd, a'r hyn sydd angen digwydd, i ddod o hyd i'r cynllun gorau er mwyn atal rhag digwydd eto.
"Mae angen hyn yn fawr yn y Rhondda gan ein bod wedi gweld sawl achos o lifogydd eleni ac maent wedi bod yn bennaf mewn llefydd heb unrhyw hanes go iawn o lifogydd."
Mewn adroddiad ym mis Tachwedd, fe alwodd cynrychiolwyr gwleidyddol Llafur Pontypridd am asesiad o'r effaith ar iechyd meddwl a'r cymorth sydd ar gael.
Mae'r AS, Alex Davies-Jones ac aelod Pontypridd yn Senedd Cymru, Mick Antoniw hefyd eisiau cynnal ymarferion llifogydd a sefydlu rhwydwaith o "lysgenhadon cymunedol".
Mae Plaid Cymru'n beirniadu'r adroddiad hwnnw, gan ddweud bod y blaid yn "dewis eistedd ar eu dwylo" wrth wrthwynebu ymchwiliad cyhoeddus, er bod "ganddyn nhw'r grym i wneud rhywbeth".
"Wedi siarad â llawer o ddioddefwyr, dwi'n gwybod na fydd eu meddyliau'n dawel nes eu bod yn derbyn yr atebion maen nhw'n eu haeddu, a bod mesurau ar waith i ddiogelu eu cartrefi a'u busnesau," medd trefnydd y ddeiseb i'r Senedd.
Ychwanegodd Heledd Fychan, cynghorydd Plaid Cymru ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, bod eu hadroddiad hwythau'n "dangos yn glir bod bywydau wedi cael eu chwalu gan y llifogydd, a bod yr effaith a'r trawma yn parhau hyd heddiw".
Gwrthododd AS Llafur y Rhondda yr alwad am ymchwiliad, gan ddweud mai'r unig bobl i elwa o hynny fyddai cyfreithwyr.
Ychwanegodd Chris Bryant ei fod yn canolbwyntio ar "sicrhau mesurau atal llifogydd mwy cadarn" a chael yr "arian gafodd ei addo gan San Steffan i dalu am y gwaith".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod effaith ddinistriol y llifogydd yn gynharach eleni ar les preswylwyr a'r effaith ar eu cartrefi a'u busnesau, ac rydym wedi cymryd camau sylweddol i ddysgu'r gwersi o lifogydd eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020