Marston's yn cymryd rheolaeth o 150 o dafarndai Brains

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrainsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr holl dafarndai'n parhau i gael eu rhedeg o dan frand Brains

Bydd y gweithredwr tafarndai Marston's yn cymryd rheolaeth o tua 150 o dafarndai SA Brain yng Nghymru.

Bydd hyd at 1,300 o swyddi yn cael eu diogelu yn y broses, meddai'r cwmnïau.

Dywedodd cadeirydd Brains, bragwr mwyaf Cymru, nad oedd y cwmni wedi gwneud y penderfyniad yn ysgafn.

Ond mae cyfyngiadau masnachu diweddar yng Nghymru oherwydd y pandemig wedi rhoi pwysau enfawr ar y busnes.

Caeodd y busnes 138 oed ei holl dafarndai ychydig wythnosau yn ôl yn sgil rheolau newydd a olygai y byddai'n rhaid iddyn nhw gau am 18:00, ac nid oedd ganddyn nhw ganiatâd i werthu alcohol.

"Mae'r cytundeb hwn yn nodi ffurfio perthynas strategol barhaol â Marston's sy'n sicrhau dyfodol tafarndai Brains a 1,300 o'n gweithwyr ynddynt," meddai'r cadeirydd John Rhys.

"Rydyn ni'n gwybod ac yn ymddiried yn Marston's i fod yn geidwaid rhagorol i'n tafarndai ac, er nad yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud yn ysgafn, rydyn ni'n hyderus y bydd ein tafarndai - a'n timau tafarndai - yn ffynnu o dan eu stiwardiaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cytundeb yn golygu y bydd Marston's yn cymryd dyletswyddau 156 o dafarndai Brains yng Nghymru.

Byddan nhw'n parhau i gael eu rhedeg o dan frand Brains, a byddan nhw'n dal i werthu eu cwrw.

Cafodd Brains ei ffurfio yn 1882 gan Samuel Arthur Brain a'i ewythr Joseph Benjamin Brain.

Mae'r cwmni'n dal i fod dan reolaeth y teulu, ac mae'r cadeirydd presennol yn or-ŵyr i Samuel Arthur Brain.

Mae 10 aelod o'r teulu wedi bod yn gadeiryddion dros y blynyddoedd.

'Ymateb cyntaf yn bositif'

Mae disgwyl i'r cytundeb gael ei gwblhau ym mis Chwefror, ac fe fydd yn ychwanegu at 1,368 o dafarndai Marston's ledled y DU.

Dywedodd Prif Weithredwr Marston's bod y cytundeb yn "diogelu dyfodol" Brains, a 1,300 o swyddi yn y sector lletygarwch.

Ychwanegodd Ralph Findlay bod y cytundeb yn "cryfhau presenoldeb" Marston's yn ne a gorllewin Cymru, ond hefyd yn "diogelu treftadaeth ac annibynniaeth busnes eiconig o Gymru" yn achos Brains.

Mae'r gwerthiant yn rhoi gobaith bod tafarndai Brains "yn mynd i oroesi", yn ôl prif weithredwr CAMRA (Campaign for Real Ale).

Dywedodd Tom Stainer, er bod y fargen yn dod â gobaith, y byddan nhw'n cael eu siomi pe bai hyn yn "gam cyntaf" i gau'r bragdy ynghanol Caerdydd.

"Rydym yn aros i weld y manylion llawn, ond byddai ein hymateb cychwynnol yn bositif," meddai wrth BBC Cymru.