51 o farwolaethau pellach yn gysylltiedig â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 51 o farwolaethau pellach sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod 3,013 o achosion pellach hefyd wedi eu cofnodi dros y wlad.

Ers dechrau'r pandemig, mae 131,102 o brofion positif wedi eu cofnodi.

Dim ond marwolaethau mewn ysbytai a chartrefi gofal sy'n cael eu cyfrif gan ICC.

Mae ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cael eu cofnodi'n wahanol, ac maent yn dangos bod dros 4,200 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru.

Fe wnaeth pob bwrdd iechyd ond un yng Nghymru gofnodi marwolaethau ychwanegol, gyda'r nifer uchaf yng Nghwm Taf Morgannwg.

Roedd 10 yn ardal Aneurin Bevan, naw yng Nghaerdydd a'r Fro, wyth ym Mae Abertawe, pump yn Hywel Dda ac un yn ardal Betsi Cadwaladr.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi ym Mhowys.

Mae cyfradd yr achosion dros yr wythnos ddiwethaf yn 624.9 i bob 100,000 o bobl dros Gymru.

Ond mae'n uwch o lawer mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful - 1,344.4 i bob 100,000 - a Phen-y-bont ar Ogwr - 1,153 i bob 100,000.

Ynys Môn a Gwynedd oedd â'r cyfraddau isaf.