Yr actor Clive Roberts wedi marw yn 76 oed

  • Cyhoeddwyd
Fo a Fe yn 1971
Disgrifiad o’r llun,

Clive Roberts (dde) gyda Ryan Davies (chwith), Guto Roberts a Gaynor Morgan Rees yn Fo a Fe

Mae'r actor Clive Roberts wedi marw yn 76 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae George yn y gyfres gomedi boblogaidd Fo a Fe.

Yn 1990 fe'i gafwyd yn euog o lofruddio ei gariad, yr actores Elinor Wyn Roberts, yn ei chartref yn Y Felinheli.

Treuliodd 12 mlynedd yn y carchar.

Roedd hefyd wedi chwarae rhan Cliff James ar Pobol y Cwm rhwng 1974-1979 a Bili 'Conshi' yng nghynhyrchiad BBC, Un Dau Tri.

Treuliodd gyfnod yn y 1980au yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.

Bu farw Mr Roberts, a oedd wedi bod yn byw yn Nhrefor, yn Ysbyty Gwynedd ar 24 Rhagfyr wedi gwaeledd byr.

Bydd gwasanaeth preifat yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 6 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig