A allai wisgi Cymreig gael statws tebyg i Scotch?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aber FallsFfynhonnell y llun, Aber Falls
Disgrifiad o’r llun,

Mae wisgi Aber Falls wedi bod yn aeddfedu am dair blynedd ac fe fydd yn barod i gael ei werthu yn y gwanwyn

A allai wisgi a wnaed yng Nghymru gael statws gwarchodedig ei hun - ynghyd â Scotch?

Mae ar restr dymuniadau'r Nadolig ar gyfer diwydiant sydd â llygad ar ehangu yng Nghymru yn 2021.

Mae Brexit yn golygu bod rheolau ar ba fwyd a diod sy'n cael ei warchod yn newid ym mis Ionawr, gyda Llywodraeth y DU yn annog cynhyrchwyr i gysylltu â nhw.

Mae distyllwyr yng Nghymru yn gobeithio y gallan nhw ddadlau i roi amddiffyniad eu hunain i'w wisgi - neu PGI.

Byddan nhw'n ymuno â chig oen ac eidion Cymru, caws Caerffili, a gwin o Gymru, sydd i gyd yn cadw eu statws enw a ddiogelir yn gyfreithiol.

Er enghraifft, mae'n rhaid i gaws Caerffili gael ei wneud yn yr ardal honno.

Dywed James Wright, rheolwr gyfarwyddwr Distyllfa Wisgi Aber Falls yn Abergwyngregyn y byddai pawb yn y diwydiant yn elwa o gael statws.

Yng ngwanwyn 2021, bydd Aber Falls yn dechrau gwerthu wisgi am y tro cyntaf.

"Ein gweledigaeth yw adeiladu categori wisgi Cymru a'i gydnabod yn fyd-eang," meddai Mr Wright.

Ffynhonnell y llun, Graham Hembrough/Penderyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd wisgi Penderyn ei lansio i'r byd ar Ddydd Dewi Sant, 1 Mawrth, yn 2004

Mae'n 20 mlynedd ers i Ddistyllfa Penderyn ddod yn wneuthurwr wisgi cyntaf Cymru mewn canrif.

Wedi'i leoli ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae wedi dod yn frand sy'n adnabyddus ledled y byd.

Yn 2021 bydd y cwmni'n agor ail ddistyllfa, ychydig filltiroedd yn unig o Aber Falls yn Llandudno, Conwy.

Mae hefyd yn adeiladu trydydd un mewn hen waith copr yn Abertawe.

"Hoffem yn fawr iddo ddigwydd," meddai Jon Tregenna o Penderyn, wrth gyfeirio at statws i wisgi Cymreig.

"Ydy, mae'n dipyn o offeryn marchnata, ond mae hefyd yn cynnig rhywfaint o statws cyfreithiol i ni.

"Ni all distyllfa sefydlu ei hun yn unrhyw le yn y byd a dechrau gwneud yr hyn y mae'n ei alw'n wisgi Cymreig wedyn.

"Felly byddem yn amlwg yn cefnogi unrhyw ymgyrch dros arwydd daearyddol."

Hinsawdd + dŵr = unigryw

Mewn gwirionedd, er y gallai Penderyn ac Aber Falls fod yn gystadleuwyr, maen nhw eisoes wedi trafod sut y gallan nhw symud yr ymgyrch am statws PGI yn ei blaen.

Ond beth sy'n gwneud wisgi Cymru yn Gymreig?

"Rwy'n credu y byddai'n rhaid i ni ddadlau bod yr hinsawdd a'r dŵr yn gwneud wisgi Cymru yn wahanol i unrhyw wisgi arall," dadleuodd Jon Tregenna o Penderyn.

"Ac rwy'n credu bod honno'n ddadl resymol i'w gwneud."

Mae yna deimlad hefyd bod y gwleidyddion yn barod i wrando.

Ychydig cyn y Nadolig, roedd annog rhoi statws i fwyd a diod o Gymru yn cael ei hyrwyddo gan AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie.

Mewn ymateb, dywedodd gweinidog bwyd a materion gwledig y DU, Victoria Prentis, ei bod am i gynlluniau PGI newydd y DU "arddangos ein cynhyrchion gwych ym Mhrydain".

Dywedodd ei bod am weld eraill yn ymgysylltu â'i hadran "i'n helpu ni i nodi cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, a thu hwnt".

Pynciau cysylltiedig