Bedydd tân i fusnesau newydd yng nghyfnod Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
salon

Mae wedi bod yn flwyddyn o heriau a newid i fusnesau ar draws Cymru, ond beth am rai sydd wedi bod yn ddigon dewr i sefydlu yn ystod y pandemig?

Mae'n sicr wedi bod yn fedydd tan i sawl egin-fusnes.

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi rhai o entrepreneuriaid gogledd orllewin Cymru i glywed am eu profiadau nhw.

Fe agorodd Carina Williams ei siop trin gwallt newydd, Salon Carina Lyn yn Llanfairpwll, pum wythnos yn ôl. Er iddi orfod cau'r drysau yn sydyn nos Sadwrn, mae'r wythnosau cynta' wedi bod yn rhai prysur iawn.

"Nes i golli 'ngwaith yn yr haf a nes i benderfynu agor y salon fel menter newydd.

"Ma' lot o gwsmeriaid yn gofyn os ges i help efo arian i setio fyny a pan dwi'n d'eud 'na' maen nhw'n d'eud y dylia nhw helpu busnesau bach newydd, jyst helpu pobl sydd isho trio. O'dd rhaid i fi fenthyg pres gan y teulu i'n helpu fi.

"Ma' gorfod cau eto rŵan, dwi yn poeni am hynna. Dwi 'di bod mor lwcus, dwi 'di bod yn brysur efo pobl leol yn cefnogi'r busnes.

"Heb y teulu, heb pawb yn helpu fi, faswn i byth 'di gallu gwneud hyn, yn enwedig efo teulu mor ifanc fy hun."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eleri Llwyd agor ei chaffi yng nghanol y cyfnod clo cyntaf

O Fôn i'r tir mawr, lle mae Eleri Llwyd wedi agor Caffi Llwy De yng Nghaernarfon.

Fel cymaint o fusnesau eraill, mae hithau wedi addasu dipyn a'n canolbwyntio mwy na'r disgwyl ar yr ochr tecawe.

"Nes i agor chwe mis yn ôl yng nghanol y lockdown," meddai. "Nes i jyst sbïo arno fo'n bositif a meddwl 'reit dwi'n mynd i agor, dwi'n mynd i drio beth bynnag, sgin i ddim byd i'w golli', a dyna be' dwi 'di 'neud.

"I gychwyn nes i roi'r cownter yn rwla arall, ond nes i feddwl bod hi'n saffach i mi newid petha' rownd. Y bwriad wrth agor i ddechra' o'dd i 'neud o'n gaffi ond dwi'n gwneud mwy o tecawe rŵan a dwi'n licio ffordd yma mewn ffordd.

"Wrth gwrs mae'n siŵr os fasa hi'n amser gwahanol, ella fasa 'na fwy 'di dod yma. Mae 'na ambell un yn d'eud bod nhw'm 'di gallu dod i'r dre ers stalwm i weld dy gaffi di. Ond mater o amser ydy hynna mae'n siŵr de."

Ym Mhenrhyndeudraeth, fe agorodd Deio Glyn Roberts a Morgan Griffiths eu siop farbwr yn llythrennol ychydig ddyddiau cyn cyfnod clo mis Hydref.

Chawson nhw ddim help ariannol y tro hwnnw am nad oedan nhw wedi bod yn agored yn ddigon hir, ond maen nhw'n gobeithio bydd pethau'n wahanol y tro hwn.

"O'dda ni 'chydig yn rhy hwyr yn dechrau arni mis Hydref medda' nhw. Tasa ni 'di agor mis ynghynt 'sa ni 'di cael £1,000 ond chathon ni ddim byd yn y lockdown yna," meddai Mr Roberts.

"Dwi'n gobeithio efo'r un rŵan gawn ni rwbath. 'Da ni'n poeni 'chydig bach achos ma' pres yn mynd allan bob tro a dim byd yn dod i mewn. Mae'n adeg reit anodd ond 'da ni'n trio cwffio drwyddo fo fel pawb arall.

"Ma' petha' 'di bod yn mynd yn grêt ar y cyfan, ma' lot o bobl 'di bod yn cefnogi ni. Ma' 'chydig bach yn anodd ar hyn o bryd efo'r holl PPE 'da ni'n gorfod cael. Mae 'di bod yn costio tua £100 yr wythnos, ond 'da ni'n gorfod g'neud be' 'da ni'n gorfod g'neud.

"Anodd ydy o weithiau yn poeni am be' sy'n mynd i ddigwydd nesa' ond 'sa ddim llawer mwy ti'n gallu g'neud, jyst gobeithio am y gorau."

Yn ôl i Fôn, lle mae Arwyn Owen, ei frawd Gethin a'u ffrind Emyr Gibson wedi troi hen sied ffarm yn Llanfachraeth yn ddistyllfa jin.

Roeddan nhw wedi bwriadu lansio 'Afallon' yn y gwanwyn ond mi wnaethon nhw arallgyfeirio am gyfnod yn sgil y pandemig i gynhyrchu hylif diheintio.

Ond mae'r jin allan ers dros fis rŵan ac mae pethau'n mynd yn dda, yn ôl Emyr: "O dan yr amgylchiadau, fedrwn ni ddim cwyno.

"Dydy'r tafarndai, y tai bwyta, y cafe-bars a bistro sy'n gwerthu alcohol fel arfer - dydan ni'm 'di gallu cyffwrdd y rheiny eto.

"Felly o ran bod ni 'di gallu mynd i siopau lleol, mae'r gwerthiant 'di bod yn dda. Ond yn bwysicach byth i ni ydy'r ymateb.

"Mae'r wlad i gyd 'di bod drwyddi yn ystod y cyfnod diwetha' 'ma. Dwi'n meddwl bod pobl yn dueddol o gefnogi busnesau lleol, siopa'n lleol. Dyna un o'r prif bethau ti'n gweld ar y tudalennau cymdeithasol.

"Fel bob un cwmni arall, mae'n mynd i fod yn dawel i ni rwan ond mae'n mynd i roi cyfle i ni fel busnes newydd i weithio ar ddiod newydd.

"'Da ni'n mynd i ddod a jin arall allan, 'da ni'n mynd i 'neud tonic yn defnyddio'n dŵr ein hunain.

"Erbyn y gwanwyn wedyn, gobeithio bydd pethau'n dechrau'n ara' bach dod yn ôl i ryw fath o normalrwydd. Gobeithio bydd bob un busnes yn gallu edrych 'mlaen at adeg lot gwell."

Pynciau cysylltiedig