Mark Drakeford yn trafod blwyddyn heriol wrth y llyw

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai annibyniaeth i'r Alban yn y dyfodol yn golygu y byddai angen "ailfeddwl am y berthynas" rhwng Cymru a Lloegr.

Wrth siarad mewn cyfweliad gyda rhaglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, i'w darlledu ar 27 Rhagfyr, mae Mark Drakeford yn trafod dyfodol y Deyrnas Unedig ac yn cymharu cydweithio gyda dau Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May a Boris Johnson.

Mae Mr Drakeford hefyd yn edrych yn ôl ar ei yrfa, ac ar flwyddyn heriol wrth y llyw yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cymru a'r Deyrnas Unedig

Wrth drafod dyfodol Cymru a'r Deyrnas Unedig, dywedodd Mr Drakeford wrth y rhaglen: "Dw i ddim eisiau gweld yr Alban yn diflannu o'r Deyrnas Unedig. Os fydd yr Alban yn mynd ar lwybr ar ei phen ei hunain - yng Ngogledd Iwerddon mae pethau yn wahanol - bydd rhaid i ni gyd ailfeddwl am y berthynas rhyngddom ni a Lloegr - a gweld beth fydd y trefniadau a'r dewisiadau."

"Mae unrhyw berson sy'n meddwl am ddyfodol y Deyrnas Unedig eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn llwyddo. Dw i'n meddwl bod cyfrifoldeb gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i wrando ac i gyd-weithio ac i weld ble allwn ni gytuno gyda'r pedwar o'r llywodraethau sydd gyda ni yn y Deyrnas Unedig."

Wrth drafod ei bryderon am Gymru ar ôl Brexit, dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Dw i ddim yn meddwl fod ein llais ni yn cael lot o effaith ar Mr (Boris) Johnson. Pan oedd Mrs May yn Brif Weinidog - wrth gwrs roedd ei sefyllfa hi'n gwbl wahanol a doedd dim mwyafrif gyda hi yn Nhŷ'r Cyffredin - a siŵr o fod yn un o'r rhesymau pam roedd hi'n fodlon gwrando ar y bobl eraill.

"Ond yn y cyfnod pan roedd hi'n Brif Weinidog ro'n ni'n dod at ein gilydd, bron bob wythnos, gyda'r gweinidogion yn y Deyrnas Unedig - ni, Prif Weinidog yr Alban ac yn y blaen. Ac roedd y berthynas yn lot fwy agos."

Dylanwad cerddoriaeth

Yn ystod y rhaglen, bydd Mark Drakeford yn dewis ei hoff gerddoriaeth, gan esbonio fod cerddoriaeth wedi cael dylanwad mawr ar ei fywyd wrth dyfu i fyny yng Nghaerfyrddin. Er nad yw'n arddel Cristnogaeth, ei ddewis cerddorol i gloi'r rhaglen yw 'He shall feed his flock' o'r Messiah gan Handel.

Dywedodd, "Dw i wedi canu'r Messiah nifer o weithiau ac mae'r gerddoriaeth mor wych. Ro'n i'n canu mewn côr yn Eglwys San Pedr yng Nghaerfyrddin. Mae'r organ yn yr eglwys wedi dod i Gaerfyrddin o Gapel St George yn Windsor ac roedd Handel wedi chwarae ar yr un organ."

Bydd rhaglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds, brynhawn Sul, 27 Rhagfyr am 13:00.