Apêl am dystion wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerbyd a cherddwr yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Mae'r cerddwr 31 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Digwyddodd y gwrthdrawiad gyda'r Audi Q3 du ychydig cyn 08:40 yn Nhrelái.

Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan dystion a welodd y cerbyd neu'r cerddwr yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig