San Steffan yn cymeradwyo'r cytundeb masnach gyda'r UE
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau seneddol San Steffan wedi cymeradwyo'r cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd fydd yn dod i rym o 1 Ionawr.
Fe wnaeth 521 o ASau bleidleisio o blaid y cytundeb, a 73 yn erbyn - mwyafrif o 448.
Daw wedi i AS Llafur o Gymru ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid ar ôl gwrthod cefnogi'r cytundeb masnach.
Ar ôl cael ei basio gan Dŷ'r Arglwyddi fe ddaeth y ddeddf newydd yn gyfraith yn ystod oriau man y bore.
Roedd yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, wedi galw ar aelodau seneddol ei blaid i gefnogi'r cytundeb "symud ymlaen" ac "adeiladu ar y cytundeb sâl yma".
Ond dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi na fydd hi'n pleidleisio ac y bydd hi'n gadael ei rôl fel ysgrifennydd i lefarwyr y blaid ar Yr Alban a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae AS arall o Gymru, Kevin Brennan wedi dweud nad yw'n deall sut y gall unrhyw un sy'n credu bod cytundeb masnach Brexit yn "gytundeb gwael" bleidleisio o'i blaid.
Yn ôl Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fe fydd yn caniatáu masnach "ar delerau cyfeillgarwch ac ewyllys da".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod "yn well na dim cytundeb o gwbl".
Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd Mr Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, ei fod yn deall galwad Keir Starmer i "symud ymlaen" ond dywedodd y byddai'r cytundeb yn "gosod Prydain ar lwybr a fydd yn ei niweidio yn ddiwylliannol ac yn economaidd".
"Dydw i wir ddim yn deall pam ei fod yn angenrheidiol i'r rhai sy'n credu bod hwn yn gytundeb gwael i bleidleisio o'i blaid a gadael eu marc ar y methiant yma o uchelgais cenedlaethol," meddai.
"Fyddai ddim yn pleidleisio o'i blaid."
Yn y Senedd yng Ngaherdydd, dywedodd Mr Drakeford, sy'n cynrychioli Gorllewin Caerdydd ym Mae Caerdydd, fod y cytundeb yn un "sâl" ond fod hynny'n well na "dim cytundeb o gwbl".
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae hwn yn gytundeb sâl i fusnes a busnesau yng Nghymru."
Ychwanegodd y bydd masnach gyda "marchnad fwyaf a phwysicaf" Cymru yn dod yn "ddrytach ac anoddach" gan na fydd y DU yn y Farchnad Sengl, "gan olygu y bydd busnesau'n gorfod dibynnu ar 27 gwahanol set o reolau cenedlaethol".
Ond dywedodd: "Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi dadlau bod cytundeb yn well na dim cytundeb.
"Mae'r cytundeb tenau a siomedig yma yn wahanol iawn i'r hyn gafodd ei addo, ond mae'n well na'r chwerwder ac anhrefn a fyddai wedi dilyn pe na bai cytundeb o gwbl."
'Theatr gwleidyddol'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies ei fod yn croesawu'r cytundeb, a'i fod yn anghytuno gyda beirniadaeth Mr Drakeford fod senedd y DU ond yn cael diwrnod i drafod a phasio'r mesur perthnasol.
Ychwanegodd: "Byddwn yn ei atgoffa nad ydym ni eto wedi pleidleisio ar y rheolau coronafeirws sydd eisoes wedi'u cyflwyno, a dydw i ddim am dderbyn unrhyw ddarlith am graffu gan Lywodraeth Lafur Cymru."
d arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod gweithgareddau senedd y DU ddydd Mercher yn chwerthinllyd.
"Mae'r bleidlais yn San Steffan heddiw yn ddarn o theatr gwleidyddol pur," meddai.
Does dim ei angen i ddilysu'r cytundeb gan fod y gweithgor yn gallu gwneud hynny heb sêl bendith y senedd... y gwir reswm am y pantomeim seneddol yw i roi moment o ogoniant i Boris Johnson, a mandad am yr hyn sydd i ddod nesaf."
Yn y Senedd fe wnaeth ASau bleidleisio 28-24 o blaid cynnig Llywodraeth Cymru yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar y berthynas fasnachu i'r dyfodol.
Er hynny doedd dim gofyn i ASau gymeradwyo'r cytundeb gan fod gweinidogion Cymru'n dadlau eu bod ond wedi cael gweld y cytundeb ar y funud olaf a bod ambell gymal ohono'n "gallu cael effaith ar y setliad datganoli".
Roedd y cynnig hefyd yn derbyn bod y cytundeb yn llai niweidiol na gadael heb gytundeb ar ddiwedd y cyfnod pontio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020