Arestio dyn wedi marwolaeth dynes ym Mhwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 25 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli ddydd Mawrth, ac mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Westy'r Crown ym Mhwllheli ar 29 Rhagfyr.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin marwolaeth y ddynes fel un amheus, ac mae dyn lleol 36 oed wedi cael ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-Arolygydd Gareth Evans: "Mae unrhyw farwolaeth gynamserol yn drasiedi, ac mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes ifanc, sy'n derbyn cefnogaeth swyddogion."
Aeth ymlaen i ddweud nad oedd angen i'r gymuned leol bryderu, ond apeliodd hefyd am unrhyw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.
Dylai pobl sydd gyda gwybodaeth berthnasol ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod Y189093.