Y tenor Washington James wedi marw yn 87 oed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y tenor Washington JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y tenor Washington James

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r tenor Washington James a enillodd y rhuban glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993.

Gan sefydlu garej ym mhentref Cenarth ym 1959, fe ddatblygodd Washington James yrfa ym myd ceir.

Esblygodd y busnes hwnnw, ac roedd 'Washy', fel y'i gelwid, yn rhan o'r broses o sefydlu cwmni bysys Cerbydau Cenarth. Ond er mai byd y bysys oedd ei fara menyn, canu oedd yn llenwi'i galon ac yn mynd â'i fryd.

Fe gafodd glod beirniaid eisteddfodol o fri megis Meirion Williams am ansawdd ei lais tenor.

Diddordeb ym myd ralïo

Yn Eisteddfodwr brwd, fe ddaeth uchafbwynt ei gyfnod o gystadlu ym 1993 pan enillodd Wobr Goffa David Ellis, a'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, Powys.

Fe fydd hefyd yn cael ei gofio am ei ddiddordeb ym myd ralïo.

Ym 1970, fe lwyddodd i baratoi car ar gyfer Cwpan Ralïo'r Byd, ac fel rhan o dîm, ei yrru ar draws Ewrop a thrwy Dde America gan orffen yn Mecsico ar gyfer agoriad Cwpan Pêl-droed y byd yno.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Washington James gyda'r car rali gafodd ei yrru i Mecsico yn 1970

Dywedodd ei fab, Chris James; "Ei ddileit e oedd y 'steddfodau bach. Oedd e'n gefnogol iawn i'r rheini.

"Sai'n cofio sawl tro wedyn enillodd e'r gystadleuaeth i denoriaid yn y Genedlaethol, a wedyn wrth gwrs y Rhuban Glas yn Llanelwedd.

"Ond oedd e'n canu o hyd. Canu bob dydd wrth ei waith. Yn anffodus, mae e wedi rhoi ei gân olaf."

Yn 87 mlwydd oed, bu farw Washington James yn nghartref gofal Glyn Nest, yng Nghastellnewydd Emlyn.