Marwolaeth dyn yn Sir Benfro: 'Dim amgylchiadau amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dim amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth a gafodd ei thrin yn y lle cyntaf fel un heb esboniad.
Fe lansiodd y llu ymchwiliad Nos Galan yn dilyn marwolaeth dyn 42-oed yn Llanusyllt, Sir Benfro.
Roedd hynny wedi i'r llu ddod o hyd iddo ar ôl cael eu galw i lwybr oddi ar Brewery Terrace yn y pentref am tua 18:00.
Dywed y llu: "Yn dilyn archwiliad post-mortem, rydym wedi dod i'r casgliad bod dim amgylchiadau amheus o ran marwolaeth y dyn.
"Rydym nawr yn gweithio gyda'r crwner. Mae ein meddyliau gyda'r teulu yn y cyfnod trist yma."
Mae'r llu wedi diolch i'r bobl gysylltodd â nhw wedi apêl nos Iau am wybodaeth, ac i'r bobl a stopiodd i roi cymorth i'r dyn yn y fan ble y bu farw.