Ymchwiliad heddlu wedi achos o drywanu yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cynnal ymchwiliad wedi achos o drywanu yn Wrecsam yn gynnar fore Gwener.
Cafodd tri dyn eu hanafu yn sgil digwyddiad yn ardal Ffordd Norman, ac mae dau yn dal yn cael triniaeth ysbyty.
Cafodd tri pherson - dau ddyn a dynes - eu harestio ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r llu'n cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ yn yr ardal.
Dywedodd y Ditectif Prif Uwcharolygydd Gareth Evans: "Mae trais o'r natur yma'n hollol annerbyniol ac yn achosi ofn a gofid.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i drigolion lleol a hoffwn roi sicrwydd iddyn nhw ein bod wedi gweithredu'n gyflym ac arestio'r rheiny rydym yn credu oedd yn rhan ohono."