Dau yn parhau yn yr ysbyty ar ôl achos trywanu
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu yn Wrecsam yn oriau mân Ddydd Calan.
Cafodd tri dyn eu hanafu yn sgil digwyddiad yn ardal Ffordd Norman, ac mae dau a gafodd eu hanafu'n ddifrifol yn dal yn cael triniaeth ysbyty.
Mae dyn a dynes a gafodd eu harestio am yr ymosodiad wedi eu rhyddhau ond maen nhw'n parhau i gael eu hymchwilio.
Mae dyn arall yn parhau i fod yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Gareth Evans fod Heddlu'r Gogledd yn "hynod ddiolchgar i'r holl dystion sydd wedi cynorthwyo gyda'r ymchwiliad ac wedi darparu tystiolaeth werthfawr".
Maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021