Covid-19: Dros 4,000 o achosion positif newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 56 yn rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 hyd at 09:00 ar 2 Ionawr.

Roedd 4,011 o achosion newydd o'r haint, dros gyfnod o ddau ddiwrnod, hyd at fore Sadwrn hefyd.

Mae 3,620 o farwolaethau yn ymwneud â'r haint bellach wedi'u cofnodi.

Mae nifer yr achosion positif yng Nghymru bellach wedi codi i 155,311.

Pynciau cysylltiedig