Dyn yn gwadu llofruddio mam i ddau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio mam i ddau yn Abertawe.
Bu farw Helen Bannister, 48, wythnos wedi iddi gael ei chludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn ardal Mayhill o'r ddinas ddechrau Rhagfyr.
Mae disgwyl i'r achos llawn yn erbyn Jonathan James Frasier Campbell gael ei gynnal ym Mehefin gan bara rhwng saith a deg diwrnod.
Mae'r llys yn dal i aros am ganlyniadau archwiliad post mortem, ac felly ni wnaeth y diffynnydd gyflwyno ple am ddynladdiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020