'Dylai'r heddlu ddefnyddio' technoleg wynebau
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o dde Cymru sydd wedi datblygu meddalwedd adnabod wynebau ar gyfer y sector preifat yn dweud y dylai rhagor gael ei wneud i ganiatáu'r heddlu i ddefnyddio'r dechnoleg yn ddiogel.
Yn ôl Prif Weithredwr Credas, Rhys David, mae'n drist nad yw'r heddlu'n gallu gwneud defnydd o'r dechnoleg i gadw pobl yn ddiogel.
Yn gynharach eleni, fe ddyfarnodd y Llys Apêl bod defnydd Heddlu'r De o dechnoleg adnabod wynebau i sganio wynebau miloedd o bobl mewn torfeydd yn anghyfreithlon.
Mae'r achos wedi amlygu'r ffaith bod technoleg yn gallu symud a datblygu llawer ynghynt na'r gyfraith, yn ôl arbenigwr cyfreithiol.
Ers sefydlu'r cwmni yn 2017, mae Credas wedi bod yn datblygu technoleg adnabod wynebau sy'n helpu i atal twyll mewn busnes.
"10 mlynedd yn ôl, byddai'n teimlo fel space age, ond nawr mae o [y dechnoleg] ym mhobman... jyst wrth lwytho eich ffôn neu gyfrifiadur, ni wedi arfer gyda'r cyfan nawr. Ond fydd deddfwriaeth byth yn cadw lan gyda datblygiadau technolegol," meddai Mr David.
''Mae yna straeon lu am bobl yn prynu tai gyda manylion adnabod eraill a thrin y gwaith papur fel bod arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrifon anghywir - ac mae'n rhy hwyr erbyn hynny - does dim modd dadwneud hynny."
Wrth ddefnyddio ap Credas, y cwbl sydd rhaid gwneud ydi cymryd selfie a llun o'ch pasbort - ac mae'r ap yn gwneud y gweddill. Mae'n osgoi'r angen i gwmnïau arbenigo mewn cyfraith GDPR, ac yn ystod y pandemig, mae'n caniatáu i'r cyfan ddigwydd o gartref yr unigolyn.
Mae Claire Williams yn gweithio i gwmni arwerthu tai FBM yn Aberdaugleddau ac Arberth. Maen nhw wedi bod yn defnyddio'r feddalwedd am y ddwy flynedd ddiwethaf i wirio pwy yw cleientiaid.
"O'r blaen, roedden ni'n cymryd pasbortau neu drwyddedau gyrru pobl, bydden nhw naill ai'n dod i mewn i'r swyddfa a byddem yn ei llungopïo, neu byddem hyd yn oed yn derbyn copi wedi'i sganio a'i e-bostio.
"Fydda dim modd gwybod o'r blaen a oedden nhw'n basbortau neu drwyddedau go iawn."
Daeth y dadleuon ynglŷn a thechnoleg adnabod wynebau i'r brig pan ddyfarnodd y Llys Apêl bod defnydd Heddlu'r De o dechnoleg adnabod wynebau i sganio wynebau miloedd o bobl mewn torfeydd yn anghyfreithlon.
Roedd Ed Bridges, o Gaerdydd, wedi herio Heddlu'r De am eu defnydd o'r meddalwedd ar sail ei hawl i breifatrwydd.
'Technoleg yn symud yn gynt na'r gyfraith'
Mae Heddlu'r De yn dal i geisio datrys y problemau gafodd eu codi gan y llys apêl ac mae'r achos wedi codi nifer o gwestiynau yn ôl Dr Huw Pritchard o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd.
"Be' sy' 'di dod allan o hynny falle, ydi bod y dechnoleg wedi symud llawer cynt na'r gyfraith yn y maes," meddai.
"Y ffordd i ystyried datblygu y maes yma ydi edrych; a'i rhoi fframwaith gyfreithiol benodol ar gyfer offer adnabod wynebau ydi'r ffordd orau, trwy ddeddf benodol neu reoliadau penodol? Neu a'i cryfhau'r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data a diogelu preifatrwydd yw'r ffordd ymlaen?
"Mae'r ffaith bod y llys wedi cydnabod bod data personol yn cynnwys data biometrig - a siâp a maint y wyneb yn tynnu sylw - bod hwn yn cael ei gydnabod fel mater data personol felly mae'n dod a hynny fewn i ofynion y gyfraith sydd yn gam ymlaen er mwyn sicrhau bod hynny'n cael ei gydnabod yn sicr."
Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf o ran y gyfraith yn rhannol ddibynnol ar "safbwynt y cyhoedd ar y math yma o gamerâu," yn ôl Dr Pritchard.
"Falle bod o'n fater o ba more gyfleus ydi o i'r cyhoedd ddefnyddio'r math yma o offer. Felly os ydi rhoi ein wyneb ni yn rhoi mwy o gyfleustra i ni gael mynediad i lefydd neu i gael gwybodaeth neu arian neu wasanaeth, yna y mwy parod fydde'r cyhoedd i ddefnyddio fo.
"Da ni'n gweld o, er enghraifft, efo ffonau symudol; mae pobl ddigon hapus i roi ei marciau bysedd i'r ffôn - yn yr un ffordd, gwybodaeth bersonol ydi o - bydde ni'n rhoi ein wynebau yn yr un modd.
"Ond, mae'n bwysig i gymryd sylw pryd ma'r defnydd yna yn troi o fod yn fater o gyfleustra i'r cyhoedd, i fod yn ddata ma'r sector gyhoeddus a'r sector breifat yn gallu ei ddefnyddio i wahanol bwrpasau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019