Rhybudd i gymryd gofal hyd yn oed ar ôl cael brechlyn
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd wedi cael brechlynnau Covid yn cael eu rhybuddio i barhau i gymryd gofal.
Dangoswyd bod brechu yn atal haint difrifol, felly hyd yn oed os yw pobl yn dal y feirws, byddan nhw'n cael eu hamddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael.
Daw'r alwad wrth i nyrs y GIG, sy'n gweithio i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ddweud iddi gael Covid-19 wrth aros am ei hail ddos.
Dywedodd y bwrdd iechyd er bod y brechlyn "yn lleihau eich siawns o ddioddef", "nid oes yr un brechlyn yn 100% effeithiol".
Mae'r brechlyn Pfizer-BioNtech, a ddechreuodd gael ei gyflwyno yn y DU y mis diwethaf, yn cynnig amddiffyniad hyd at 95% yn erbyn Covid-19.
'Rhoi'r argraff o ddiogelwch'
Dywedodd y nyrs, sydd eisiau aros yn ddienw, er iddi gael trafferthion yn cael apwyntiad i ddechrau, fe dderbyniodd frechlyn Pfizer/BioNTech fis diwethaf.
"Fe roddodd dawelwch meddwl i mi - roedd yn gwneud i mi deimlo'n fwy diogel a 'mod i'n gwneud y peth iawn i fy nheulu," meddai.
"Ond dydy hynny ddim yn iawn - rhoi'r argraff o ddiogelwch yn unig mae e."
Cafodd wybod y byddai ganddi amddiffyniad rhag Covid-19 o fewn 10 diwrnod, ond dair wythnos yn ddiweddarach fe ddechreuodd hi deimlo'n wael ac fe gafodd brawf positif.
"Fe ges i symptomau eithaf difrifol - peswch gwael, tymheredd uchel, trafferth yn cael fy anadl - ac roedd hynny dair wythnos ar ôl cael y brechlyn," meddai'r nyrs.
"Roeddwn i'n poeni'n ofnadwy am fy nheulu - o fewn dyddiau roedden ni i gyd yn wael, ac roedd symptomau fy nheulu yn waeth."
Mae cymdeithas feddygol y BMA yng Nghymru wedi mynegi pryder y bydd pobl bellach yn gorfod disgwyl 12 wythnos rhwng y ddau ddos o'r brechlyn.
Dywedodd BMA Cymru bod diffyg tystiolaeth i gefnogi disgwyl 12 wythnos rhwng y ddau ddos o'r brechlyn.
'Yr amddiffyniad gorau sydd gennym'
Dywedodd dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dr Philip Kloer, mai'r brechlynnau yw'r "amddiffyniad gorau sydd gennym yn erbyn Covid-19".
"Fel pob rhan arall o'r DU, rydyn ni ar ras i ddarparu'r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae hi wastad yn drist clywed am staff yn cael y feirws. Tra bo'r brechlyn yn lleihau eich siawns o ddioddef o Covid-19, does yr un brechlyn yn 100% effeithiol."
Ychwanegodd bod y bwrdd iechyd wedi rhoi'r brechlyn cyntaf i dros 10,000 o bobl, a'u bod wedi sicrhau staff y byddan nhw'n derbyn eu hail frechlyn o fewn 12 wythnos o'r cyntaf, gan ddilyn polisi'r DU.
"Mae gweithio i'r GIG yn heriol iawn ar hyn o bryd ac rydyn ni'n cydnabod pa mor anodd ydy hyn," meddai Dr Kloer.
"Rydyn ni wedi rhoi rhagor o gefnogaeth a chwnsela mewn lle, yn ogystal â gwasanaethau cefnogaeth seicolegol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021