Covid-19: Profiadau dirdynnol staff Ysbyty Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google

Dywed staff yn un o'r ysbytai sydd wedi cael ei daro waethaf gan Covid-19 bod straen y salwch bellach yn effeithio arnyn nhw a'u bod newydd orffen un o'r shifftiau gwaethaf erioed.

Mae BBC Cymru wedi bod yn siarad â staff hynod o emosiynol yn uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg wrth iddynt gael trafferth i ymdopi ag ail don y feirws.

Hyd yma, mae 1,091 o bobl wedi marw o'r haint yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - y nifer mwyaf yng Nghymru.

Dywed un uwch-feddyg bod yr ysbyty gyfan yn wynebu "pwysau didostur".

Ddydd Sadwrn diwethaf roedd 13 ambiwlans yn aros y tu allan i'r uned ddamweiniau ac achosion brys.

'Be mae rywun yn gallu ei wneud?'

Dywed Sarah Fograsy, sy'n nyrs hŷn yn yr uned, ei bod yn hynod bryderus am ddiogelwch cleifion ar un adeg.

"Roedd y cyfan yn ofnadwy. Doedd yna ddim lle gen i yn yr uned o gwbl ac roedd 13 claf y tu allan. Petai cleifion wedi bod angen cael eu rhoi ar beiriannau anadlu CPAP fyddai hynny ddim wedi bod yn bosib.

"Dwi ddim yn ofni wynebu her ond am y tro cyntaf erioed wrth i fi drio cydlynu'r ward fe ges i'r teimlad yna fy mod i am adael. Roeddwn i wedi cael digon. Roedd cael 13 ambiwlans y tu allan yn fy llenwi gydag ofn - roedden nhw'n ciwio o gwmpas y maes parcio - be mae rywun yn gallu ei wneud?

"Ond fe ddechreuais i edrych o'm cwmpas ar y staff eraill oedd yn gweithio yn gwbl ddiflino a chofio y rheswm pam ein bod ni yma. Yn llythrennol yr ymdrech ddyngarol yn brwydro yn erbyn y pandemig sydd wedi annog pobl i fwrw ymlaen gyda'r gwaith.

"Mae ysbryd penderfynol y staff mor bwerus a dyna sut wnaethon ni gyrraedd diwedd y shifft," ychwanegodd.

'Fel chwarae gêm o Tetris'

Mae Amanda Farrow yn ymgynghorydd meddygaeth frys a dywedodd bod staffio a phrinder gwelyau yn bryder gwirioneddol ar un adeg y penwythnos diwethaf.

"Yn yr adran achosion brys ein her dyddiol yw cael llif. Mae e fel chwarae gêm o Tetris wrth i ni benderfynu pa glaf sy'n mynd lle."

Mae'n ychwanegu bod yr ail don o'r feirws wedi achosi i staff fod yn sâl - nifer ohonynt yn sâl iawn.

"Mae rhai staff wedi bod yn cael eu trin fel cleifion," meddai.

"Roedd un o'm cydweithwyr yn ddifrifol wael a bu'n rhaid iddo fynd i'r uned gofal dwys. Mae'r cyfan yn emosiynol iawn ac hefyd mae'r teimlad yna ai chi fydd nesaf?"

Mae Ms Farrow yn dweud bod llai o gleifion yn dod i'r uned ddamweiniau ac achosion brys ond bod salwch y rhai sy'n dod yn fwy difrifol.

"Mae'r cleifion ry'n yn eu trin y tro hwn yn wahanol," ychwanegodd. "Y tro 'ma ry'n yn gweld pobl ifanc gyda Covid ac mae nifer yr achosion yn y gymuned yn uchel.

"Rwy'n credu hefyd fod pobl ofn mynd i'r ysbyty ac felly mae nifer o gleifion yn ei gadael hi'n rhy hwyr cyn cael cymorth meddygol," ychwanegodd.