Prifysgol Aberystwyth yn annog myfyrwyr i beidio â dychwelyd

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr is-ganghellor na ddylai myfyrwyr fynychu'r brifysgol oni bai bod hynny'n "hollol angenrheidiol"

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth fyfyrwyr am beidio â dychwelyd i'r campws yn dilyn cyngor newydd gan Lywodraeth Cymru.

Y bwriad oedd ailagor gam wrth gam o 11 Ionawr ond mae hynny bellach wedi cael ei ohirio.

Dywedodd yr is-ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure na ddylai myfyrwyr fynychu'r brifysgol oni bai bod hynny'n "hollol angenrheidiol".

Ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai myfyrwyr "astudio o adref os ydych chi'n gallu".

'Adolygu ein cynlluniau'

"O ystyried y datganiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru rydym yn adolygu ein cynlluniau ar gyfer addysgu personol a byddwn yn eich hysbysu cyn gynted ag y gallwn." meddai'r Athro Treasure.

"Tra ein bod yn adolygu'r cynlluniau hynny, nid ydym am i fyfyrwyr deithio i'r brifysgol yn ddiangen."

Ychwanegodd bod eithriadau i'r rheol yma, gan gynnwys myfyrwyr sydd ddim â chyswllt â'r we a rheiny sydd angen gwneud gwaith mewn labordai.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod prifysgolion yn adolygu eu cynlluniau yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol.

"Ar ôl dychwelyd, disgwylir i fyfyrwyr hefyd gymryd dau brawf asymptomatig a chydymffurfio â rheolau wrth iddynt ail-ymuno â'u cartref yn ystod y tymor," meddai.

'Arhoswch adref'

Er y cyhoeddiad, dywedodd Prifysgol Bangor y byddan nhw'n parhau i symud tuag at addysgu wyneb i wyneb gam wrth gam.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd yn gynharach yr wythnos hon na fyddai dysgu wyneb i wyneb yn ailddechrau nes 22 Chwefror ar y cynharaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein neges i fyfyrwyr, staff a phrifysgolion yr un fath â gweddill y boblogaeth: arhoswch adref, gweithiwch ac astudiwch adref os allwch chi.

"Dim ond os na allwch weithio gartref neu astudio adref y dylech fynychu eich gweithle."