Uchafbwyntiau gyrfa'r gohebydd chwaraeon Gareth Blainey

  • Cyhoeddwyd
blainey

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i BBC Cymru wrth i Gareth Blainey adael yr adran chwaraeon fel aelod o staff.

Mae'r gohebydd wedi bod yn llais cyfarwydd am dros dri degawd, yn arbennig wrth drafod pêl-droed a snwcer.

O Mark Williams yn noeth i rai o gemau pêl-droed mwyaf cofiadwy Cymru, mae Gareth yn rhannu rhai o'i atgofion o'i gyfnod yn y swydd.

Rydw i wedi bod yn hynod o ffodus i gael y cyfle i sylwebu neu ohebu ar nifer o fuddugoliaethau nodedig i dîm pêl-droed Cymru a chlybiau pêl-droed o Gymru yn ystod fy nghyfnod yn Adran Chwaraeon BBC Cymru a ddechreuodd ym mis Medi 1987.

Un o'r prif uchafbwyntiau oedd y wefr o fod yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar noson 16 Hydref 2002. Dyna'r noson y curodd Cymru Yr Eidal o 2-1 yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop.

Roeddwn i'n rhannu'r sylwebaeth ar Radio Cymru gyda Dylan Griffiths a fi oedd yn ddigon lwcus i allu disgrifio gôl Craig Bellamy a seliodd fuddugoliaeth gampus tîm Mark Hughes dros un o dimau gorau'r byd.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Robbie Savage yn brwydro am y bêl yn erbyn Massimo Ambrosini. Ar y noson gofiadwy 'na yn Stadiwm y Mileniwm fe gurodd Cymru dîm Eidalaidd a oedd yn cynnwys Buffon, Cannavaro, Nesta, Pirlo a Del Piero.

Ar ôl dwy bás gelfydd gan Danny Gabbidon a John Hartson roedd cyffyrddiad cynta Bellamy yn hyfryd wrth iddo redeg i mewn i'r cwrt cosbi a heibio i'r golwr Gianluigi Buffon cyn taro'r bêl i'r rhwyd wag. Roedd hi'n "gôl anhygoel" ym marn yr aelod arall o'r tîm sylwebu, cyn-golwr Cymru Dai Davies ac rydw i'n cytuno'n llwyr.

'Bellamy'n anhapus'

Roedd y profiad o sylwebu ar gôl Bellamy yn brofiad llawer gwell na'r un ges i wrth holi'r dyn ei hun ar y teledu bum mlynedd yn ddiweddarach. Y fo oedd capten tîm Cymru grafodd fuddugoliaeth o 2-1 yn San Marino yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop.

Cyn y gêm, oedd ychydig ddyddiau ar ôl yr embaras o golli o 3-1 yng Nghyprus, roedd rheolwr Cymru John Toshack wedi cyhuddo rhai o'r chwaraewyr o ymddwyn fel plant wedi eu sbwylio a phan ofynnais i Bellamy fel capten y tîm am ei ymateb roedd o'n anhapus iawn gyda fy nghwestiwn, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy yn ystyried sut i ateb cwestiynau Gareth

Pleser pur ar y llaw arall oedd holi chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, ar ôl iddo fo a chwaraewyr eraill Abertawe sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr. Gwnaethon nhw guro Reading o 4-2 yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth yn Stadiwm Wembley ar 30 Mai 2011.

Yr Elyrch yn creu hanes

Rydw i'n cofio'n iawn mwynhau fy mhaned o de ar yr egwyl gan feddwl ymhen llai nag awr y buaswn i'n sylwebu ar bennod ryfeddol arall yn stori'r Elyrch ar ôl iddyn nhw ddod mor agos at syrthio o Gynghrair Lloegr yn 2003.

Roedd Abertawe ar y blaen o 3-0 ar yr egwyl, ond yn chwarter awr cynta'r ail hanner sgoriodd Reading ddwywaith cyn i Scott Sinclair sgorio ei drydedd gôl o a phedwaredd ei dîm o'r smotyn.

Ffynhonnell y llun, Matthew Ashton
Disgrifiad o’r llun,

Abertawe yn dathlu eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr yn 2011

Roedd bod yno y diwrnod hwnnw yn deimlad arbennig i mi oherwydd mai yn Wembley, lai na milltir o'r stadiwm, y bues i'n byw nes oeddwn i'n saith oed tra oedd fy niweddar dad yn weinidog capel Wesle Chiltern Street yn Llundain a fy niweddar fam yn brifathrawes Ysgol Gymraeg Llundain.

Cyfweld â Mark Williams noeth

Ond nid dyna'r uchafbwynt i mi fel sylwebydd neu ohebydd. Y diwrnod mwyaf cofiadwy oedd 7 Mai 2018 - y diwrnod y daeth y Cymro Mark Williams yn Bencampwr Snwcer y Byd am y trydydd tro yn Theatr y Crucible yn Sheffield.

Ar ddechrau'r gystadleuaeth doedd fawr neb yn credu fod gobaith i Williams ei hennill a dywedodd o y buasai o'n mynd i Gynhadledd Newyddion yn noeth tasai o'n llwyddo. Cipiodd y bencampwriaeth ar ôl un o'r rowndiau terfynol mwya dramatig yn hanes y gamp. Ar ôl i Williams fynd ar y blaen o 14-7 daeth ei wrthwynebydd o'r Alban, John Higgins, yn ôl yn gryf i'w gwneud hi'n gyfartal 15-15 cyn i'r Cymro drechu Higgins o 18-16. Am stori!

Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn syllu i fyw llygaid pencampwr y byd 2018, Mark Williams

Roedd Williams yn Bencampwr Y Byd am y tro cynta ers 15 mlynedd a blwyddyn yn unig ar ôl iddo fethu â sicrhau ei le yn y gystadleuaeth drwy golli yn y rowndiau rhagbrofol ac ystyried ymddeol. Cadwodd at ei air a phan gerddodd i mewn i'r ystafell ar gyfer y Gynhadledd Newyddion yr unig beth roedd o'n ei wisgo oedd lliain o amgylch ei ganol.

Roeddwn i'n eistedd y tu ôl i fwrdd oedd â lliain bwrdd hir drosto oedd yn wynebu'r gohebwyr eraill a'r dynion camera a'r ffotograffwyr a welodd neb arall yr hyn welais i.

Wrth imi ofyn y cwestiwn cynta i Williams oedd yn eistedd nesa ata i gadawodd ei liain i syrthio i'r llawr. Dyna ecsliwsif i fi felly, ond mae hi'n deg dweud nad ydw i erioed wedi syllu i fyw llygaid unrhyw berson rydw i wedi ei holi fel y syllais i fyw llygaid Williams am y munudau nesaf...

Ffynhonnell y llun, Gareth Blainey

Hefyd o ddiddordeb: