Marwolaeth claf ifancaf ysbyty: 'Mae hyn yn real'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren JonesFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lauren yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Ar ddydd Nadolig roedd aelodau'r teulu Jones o Lwynypia yn y Rhondda yn teimlo mor sâl fel nad oedd unrhyw awydd na diddordeb ganddynt mewn agor anrhegion.

Roedd Paul, Karen a Lauren wedi cael prawf positif yn gynharach yn y mis ac roedd y tri yn dioddef yn wael.

Bu Paul a Karen yn yr ysbyty am gyfnod byr ond yna ychydig wedi 'Dolig, dywedodd eu merch 25 oed Lauren ei bod hi am fynd i'r ysbyty.

"Fe wnes i wylio hi yn cerdded o'r car i'r ysbyty. Roeddwn yn meddwl y byddai hi adre'r diwrnod wedyn," meddai Paul, sy'n swyddog gyda'r heddlu.

Y tro diwethaf i Lauren, oedd yn gweithio mewn meddygfa leol, siarad â'i rhieni oedd y diwrnod canlynol, wrth iddi dderbyn triniaeth i'w helpu anadlu.

"Hwnna oedd y cysylltiad ola' i ni gael gyda hi," meddai.

Lauren, Paul and KarenFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddirywiodd cyflwr Lauren yn gyflym ar ôl mynd i'r ysbyty

O fewn 24 awr roedd ei hiechyd yn dirywio'n gyflym a chafodd Paul a Karen neges nad oedd disgwyl i Lauren oroesi noson arall.

Fe aeth y ddau i fod gyda hi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, yn oriau man 30 Rhagfyr.

"Roedd y ddau ohonom gyda hi pan ddaeth mewn i'r byd ac roedd y ddau ohonom gyda hi pan wnaeth hi adael," meddai Karen.

"Roedd staff yr uned gofal dwys yn wych. Rwy'n cofio nhw, y staff i gyd yna o amgylch ei gwely pan adawodd Lauren. Roeddynt yn dorcalonnus."

Dywedodd Paul fod y staff wedi dweud wrtho mai Lauren oedd y claf Covid ifancaf i gael triniaeth yn yr ysbyty.

"Dyw hynny ddim yn ystadegyn rydych am ei glywed am eich merch."

Lauren a Paul JonesFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Jones fod staff yr ysbyty wedi bod yn wych a'u bod yn dorcalonnus pan fu farw Lauren

Mae'r teulu yn cael hi'n anodd deall sut i Lauren ddod mor sâl mor gyflym.

Roedd y ferch 25 oed yn dioddef o syndrom meddygol cymhleth - ac roedd yn rhaid iddi ddefnyddio baglau oherwydd poenau yn ei throed.

Roedd hefyd yn dioddef o bwysau gwaed uchel - ond doedd hyn, medd y teulu, ddim yn golygu ei bod mewn categori mwy o risg.

Dywed y teulu eu bod yn meddwl a gallai pethau wedi bod yn wahanol.

Roedd Lauren a'i mam, sydd hefyd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd, o fewn dyddiau o gael eu brechlyn Covid pan fu'n rhaid iddynt ddechrau hunan-ynysu.

'Rhybudd i eraill'

Mae'r anrhegion Dolig dal yn y tŷ a heb eu hagor.

"Am y 48 awr cyntaf roeddwn yn ceisio dianc o'r tŷ a'r holl atgofion," meddai Karen.

"Fe godais yn oriau man bore 'ma yn llefain ac mae'n debyg yn gweiddi ei henw yn fy nghwsg. Mae atgofion yn dod yn aml a dirybudd."

Fe fydd angladd Lauren yn ddiweddarach yn y mis ac mae'r teulu yn trefnu digwyddiad arbennig er cof amdani pan fydd y pandemig drosodd.

Ond nawr, eu dymuniad yw bod eu stori nhw yn rybudd i eraill.

"Mae hyn yn real. Fe wnaethom lynu at y rheolau a ni dal wedi dioddef.

"Mae'r haint mas yna ac fe allai ddod i chi.

"Ni ddim am i unrhyw un fynd drwy'r hyn rydym ni nawr yn ei brofi."

Pynciau cysylltiedig