Elliw Gwawr: Darlledu, addysgu a llestri budr
- Cyhoeddwyd

Elliw yn barod i ddarlledu i'r genedl o'i gegin!
Mae nifer ohonom ni ar hyn o bryd yn ôl yn ceisio gweithio o adref tra'n addysgu'r plant ar yr un pryd.
Daw atgofion o'r cyfnod clo cyntaf yn ôl i lawer, ond i Elliw Gwawr, Gohebydd Gwleidyddol gyda BBC Cymru, mae'n rhywbeth newydd iddi geisio dod i arfer ag o.

Euogrwydd
Yn ystod y clo cyntaf, roeddwn i ar famolaeth, ac er bod gen i fabi oedd isio maldod cyson, roedd gen i amser i ganolbwyntio ar waith ysgol Gruff, i chwarae gemau, gwneud prosiectau gwyddoniaeth diddorol, ac i drio mwynhau'r amser efo'n gilydd.
Nawr fy mod yn ôl yn y gwaith mae pethau'n wahanol iawn. Mae'r gŵr a minnau yn jyglo gwaith, gofal a dysgu, a gyda hynny daw llond trol o euogrwydd.
Euog nad ydw i'n gallu rhoi digon o amser i Gruff sy'n bump oed ac sydd dal angen help cyson efo'i waith. Euog ei fod yn cael gormod o amser ar ei dablet gan fy mod i angen heddwch i weithio. Ac euog am nad ydw i'n gallu rhoi cant y cant i fy ngwaith.

Mae Gruff yn cael paentio, tra fod Elliw yn cadw llygad ar y newyddion a'i gliniadur
Dwi'n siŵr bod rhieni ar draws y wlad yn teimlo yn union yr un peth.
Diolch byth bod Osian, y 'fengaf, yn cael mynd at yr ofalwraig. Fyswn i'n gwneud dim gwaith o gwbl efo fo adref hefyd.
Darlledu'n fyw mewn slipars
Dyw gweithio efo'r plant dan draed ddim yn hollol newydd i mi. Dwi wedi arfer gwneud radio yn y boreau o gartref yn hytrach na theithio yr holl ffordd i Lundain cyn cŵn Caer. Dwi'n siŵr bod rhai ohonoch wedi clywed Gruff yn gwneud cameo ar Radio Cymru ar adegau hefyd!
Ond mae o'n brofiad newydd yn llwyr i wneud teledu o adra. Mae'n reit anodd ffeindio rhywle digon tawel, efo signal wi-fi cryf, a sydd yn ddigon clir o shafflach i weithio fel cefndir i ddarllediad byw.
Dwi 'di setlo ar y gegin, ond 'di o ddim yn hawdd canolbwyntio pan 'da chi'n syllu ar sinc o lestri budr y tu ôl i'r laptop sy'n gweithio fel camera. Neu pan mae'r bychan yn sgrechian i fyny staer gan nad ydi o eisiau mynd i'r gwely!

Elliw yn darlledu o'r gegin... gyda'r llestri budr allan o'r siot!
Yn waeth fyth oedd y noson pan gerddodd Gruff i fewn i'r gegin fel yr oedd Bethan Rhys Roberts yn gofyn ei chwestiwn cyntaf i mi ar Newyddion S4C. Mi oeddwn i'n lwcus ei fod wedi cadw'n dawel, ond dwi'n gobeithio'n wir na welodd pawb y braw ar fy ngwyneb! Mae darlledu efo plant yn y tŷ yn sicr yn ychwanegu rhyw jeopardy ychwanegol.
Yn y swyddfa dwi'n gallu canolbwyntio ar fy ngwaith yn llwyr. Mae hynny yn amhosib nawr.
Mae'r gŵr a minnau yn rhannu'r baich, ond dwi 'di ffeindio fy hun yn gwrando ar ddatganiad y Prif Weinidog a pharatoi i fynd ar y radio, tra hefyd yn gwneud swper i'r plant. Ar adegau does ganddyn nhw ddim dewis ond gwylio'r newyddion gyda mi - dwi'n siŵr eu bod nhw'n gwybod cymaint am wleidyddiaeth â fi y dyddiau hyn!
Wedi dweud hynny mae 'na fanteision o weithio o adref hefyd; dwi ddim yn gwastraffu oriau bob dydd yn teithio a dwi'n gallu gweithio yn fy slipars.
Her i bawb
Ond mae o'n gyfnod heriol i ni gyd, yn oedolion ac yn blant. Dwi ddim yn athrawes naturiol, dwi'n ffeindio fy mod yn mynd yn flin yn hawdd, a dwi'n gwybod mai fy rhwystredigaeth i yw hynny.
Pa blentyn pump oed sydd eisiau eistedd yn llonydd am oriau? Beth sy'n hwyl am rannu bwrdd y gegin efo mam sy'n eich anwybyddu er mwyn gwneud gwaith? Mae o'n methu ei ffrindiau a'i ysgol, a dwi'n casáu'r ffaith bod ein cartref nawr yn llawn stress.

Pawb â'i offer gweithio...
Nid fi yw'r unig un sy'n ffeindio'r cyfnod yma yn heriol. Mae pob un o fy ffrindiau wedi cwyno am ba mor anodd yw hyn. Ond dwi'n ymwybodol iawn ein bo' ni'n lwcus bod gennym ni waith; mae 'na gymaint o bobl mewn sefyllfa llawer gwaeth.
A dim ond un plentyn sydd gen i i'w ddysgu. Mae gen i ffrind efo pedwar o blant a dau laptop rhyngddyn nhw - mae o'n sefyllfa amhosib.
Er bod yna lygedyn o obaith ar y gorwel nawr, mae'n amlwg na fydd bywyd yn dychwelyd i normal am beth amser. Fydd y plant ddim nôl yn yr ysgol am rai wythnosau eto, felly sut ydan ni'n mynd i ddygymod?
Mae o'n help mawr i mi fy mod yn gallu rhannu'r baich, ond ar y diwrnodau pan dwi ar ben fy hun, dwi'n trio peidio rhoi gormod o bwysau ar fy hun i wneud popeth. Triwch beidio teimlo'n euog, mae'n haws dweud na gwneud dwi'n gwybod, ac mae'n rhywbeth dwi dal yn gweithio arno!

Gruff ac Elliw yn gwneud eu gwaith gyda'i gilydd
Yn ymarferol dwi'n licio dechrau ar y gwaith ysgol yn gynnar, fel bod y rhan helaeth wedi'i wneud cyn mae fy ngwaith i yn mynd yn rhy brysur.
A phan dwi angen heddwch mae 'na lu o raglenni addysgiadol gwych ar gael ar y BBC ac S4C, fel bod plant yn gallu gwylio teledu heb i ni deimlo'n euog.
Ond dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf dwi wedi'i glywed yw bod angen i gofio mai nid gweithio o adref 'da ni ar hyn o bryd; 'da ni adref yn gweithio, a gofalu am ein plant, mewn cyfnod o argyfwng. Mae'r gwahaniaeth bychan yna yn hollbwysig yn fy marn i.
Hefyd o ddiddordeb: