Yr awdures ac actores Mirain Llwyd Owen wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mirain Llwyd OwenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mirain Llwyd Owen yn Tydi Coleg yn Gret

Bu farw'r actores a'r awdures Mirain Llwyd Owen yn 47 oed yn dilyn salwch hir.

Fe wnaeth hi ymddangos mewn nifer o gyfresi drama megis Tydi Bywyd yn Boen a Pengelli.

Bydd hi hefyd yn cael ei chofio am ei gwaith fel awdur teledu ar gyfresi Tipyn o Stad, Amdani a Pobol y Cwm.

Yn 1990 cafodd y brif ran yn y gyfres deledu Tydi Bywyd yn Boen yn chwarae Delyth Haf.

Ail-gydiodd yn y rhan ar gyfer y dilyniant Tydi Coleg yn Grêt.

Ei thad oedd y diweddar brifardd Gerallt Lloyd Owen.

Yn 2015 bu'n son wrth Cymru fyw am gyfrol olaf ei thad - Y Gân Olaf.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mirain Llwyd Owen yn chwarae rhan Delyth Haf yn Tydi Bywyd yn Boen

Dywedodd Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C, fod Mirain wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sianel.

"Bydd portread Mirain o Delyth Haf, prif gymeriad Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt yn rhan o atgofion ieuenctid nifer fawr o wylwyr S4C.

"Ond bydd llawer o bobl ddim yn sylweddoli fod Mirain wedi parhau i gyfrannu'n sylweddol i'r sianel ar ôl symud tu ôl i'r camera fel un o sgriptwyr Pobol y Cwm am nifer fawr o flynyddoedd.

"Mae colli Mirain mor gynnar yn golled i deledu yn gyffredinol ond yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau.

"Cydymdeimlwn yn fawr gyda Tim a'r teulu oll yn eu colled."

'Awdur didwyll'

Dywed Nest Gwenllian Roberts, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm: "Roedd gweithio gyda Mirain wastad yn bleser.

"Yn awdur cydwybodol, roedd hi'n meddwl yn ddwys am bob gair ac er yn dawel, roedd hi'n angerddol tu hwnt.

"Bu'n sgriptio i Bobol y Cwm am dros 20 mlynedd.

"Yn awdur didwyll, roedd ganddi feddwl treiddgar a'i chryfder mawr oedd y ffordd roedd hi'n deall y natur ddynol.

"Gwnaeth gyfraniad helaeth i'r gyfres ac mae gennym atgofion melys tu hwnt o dreulio amser yn ei chwmni.

"Bydd colled fawr amdani a'i dawn. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Tim ei phartner a'i theulu."

Pynciau cysylltiedig