Y gwirfoddolwyr tu ôl i lwyddiant cwrs Cymraeg Duolingo
- Cyhoeddwyd
Mae'n bum mlynedd ers lansio'r cwrs Cymraeg ar yr ap dysgu ieithoedd Duolingo, diolch i griw o wirfoddolwyr brwd wnaeth bwyso ar y cwmni a helpu i greu'r cwrs mae 1.62m o bobl wedi cofrestru arno ers 2016.
Gyda chynnydd aruthrol dros y byd mewn dysgu iaith drwy apiau yn ystod y pandemig - a'r DU, yn annisgwyl, yn arwain y cynnydd - cyhoeddodd Duolingo mai'r Gymraeg yw'r iaith wnaeth dyfu gyflymaf ar yr ap yn y DU yn 2020.
Gwelodd nifer y dysgwyr Cymraeg newydd ar yr ap gynnydd o 44% yn 2020, uwchlaw Hindi, Japanaeg a Ffrangeg.
Mae 474 o filoedd wrthi'n dysgu ar yr ap ar hyn o bryd.
1.62 miliwnWedi cofrestru gyda'r cwrs Cymraeg ers y dechrau.
474,000Yn dysgu Cymraeg drwy'r ap ar hyn o bryd.
44%yw canran y cynnydd mewn dysgwyr Cymraeg newydd o'r DU ar y cwrs yn 2020 - uwch na Hindi, Japanaeg a Ffrangeg.
Dim lle i fwy o ieithoedd
Un o'r rhai oedd yn allweddol yn y galw am gwrs Cymraeg ar Duolingo yw'r tiwtor iaith Richard Morse.
"Roedd tri ohonon ni yn bennaf yn yr ymgyrch; finne, Kathy Dobbin o Lundain a'r diweddar Andrew Manston," meddai Richard sy'n parhau i ysgrifennu a chywiro'r cwrs yn ogystal â chynnal sesiynau sgwrsio i ddysgwyr o bedwar ban byd hefyd.
"Tasen ni ddim wedi ymgyrchu falle fyddai Cymraeg ddim wedi ymddangos. Fydde fe ddim wedi digwydd mor fuan beth bynnag.
"Yn ddiweddar mae cwrs Gaeleg yr Alban wedi ymddangos, felly efallai y bydde fe, ond efallai ddim, ti byth yn gwybod.
"Mae cymaint o alwadau ar y cwmni i wneud cyrsiau iaith i gannoedd a channoedd o ieithoedd ac erbyn hyn maen nhw wedi penderfynu does dim digon o le gyda nhw i gynnal mwy o ieithoedd."
Mae 40% o'r rhai sydd wedi cofrestru yn dod o'r DU daw'r gweddill o bedwar ban byd gan gynnwys un yn Antarctica, yn ôl y cwmni.
Cyfrannu at ysgrifennu'r cwrs
Pan lansiwyd y cwrs yn 2016, dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gwneud hynny am fod "lot o alw" gan griw "lleisiol iawn" a "threfnus" oedd wedi "cyflwyno dadleuon da iawn dros ei datblygu hi".
"Roedd nifer o bobl wedi cyfrannu at ysgrifennu'r cwrs yn ychwanegol at y prif gyfranwyr," meddai Richard.
"Yn wreiddiol roedd cynnwys y cwrs wedi ei seilio ar werslyfrau Cymraeg i Oedolion CBAC, gyda ambell i estyniad, cyn dyfodiad y Ganolfan Genedlaethol, ac rydyn ni'n gweithio ar addasiadau. "
Duolingo ei hun sy'n creu'r heriau dros eu cyrsiau i gyd meddai Richard gan egluro mai creu gêm allan o'r dysgu yw athroniaeth yr ap.
Yn ystod y cyfnodau clo mae'r sesiynau sgwrsio sy'n cael eu trefnu drwy fforymau Duolingo a'u cynnal gan wirfoddolwyr, wedi tyfu.
"Mae'n rhaid i fi gyfyngu y nifer bob wythnos," meddai Richard. "Roedd 34 gyda fi wythnos diwetha' o Gymru, Lloegr, Canada, Unol Daleithiau, Yr Alban, Yr Iseldiroedd, Awstralia (roedd hi'n hanner nos yno) a Costa Rica (7am)!"
Mae grŵp Facebook hefyd yn cael ei weinyddu gan wirfoddolwyr.
Yn ogystal â Richard a Kathy Dobbin mae gwirfoddolwyr eraill fel Chris Chetwynd, Ellis Vaughan, Jonathan Perry a Helen Morfydd naill ai'n helpu i olygu a chywiro'r cwrs neu gyfrannu at fforymau a threfnu cyfarfodydd a digwyddiadau.
Ysgolion
Yn ogystal ag oedolion o bedwar ban byd yn dysgu eu hunain ac mewn dosbarthiadau, mae nifer o blant mewn dosbarthiadau Cymraeg ail-iaith mewn ysgolion yn defnyddio'r Duolingo Schools hefyd meddai Richard Morse.
Yn 2020 roedd 22% o ddysgwyr newydd yr ap yn dweud mai'r ysgol oedd eu prif gymhelliad dros ddysgu. Dewisodd 17% y teulu fel eu prif reswm wedi ei ddilyn gan diwylliant (15%), yr ymennydd (15%), gwaith (9%) a theithio (8%).
'Hanner ffordd i'r miliwn!'
Un o ganfyddiadau Adroddiad Iaith Duolingo yn y DU yn 2020 oedd fod dysgwyr y Gymraeg ymysg y rhai mwyaf ymroddedig yn y byd wrth fesur yn ôl hyd eu cyfnodau dysgu dyddiol a'r nifer fwyaf o wersi a gyflawnwyd.
Gallai hyn fod yn newyddion da i Lywodraeth Cymru a lansiodd ei hymgyrch i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yr un flwyddyn ag y lansiwyd cwrs Cymraeg Duolingo.
A rŵan, ar Ddydd Santes Dwynwen 2021, mae Duolingo yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod honno.
"Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan Iaith Genedlaethol i herio pobl yng Nghymru i gyrraedd hanner miliwn o ddysgwyr ar Duolingo erbyn diwedd yr wythnos," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"Rydyn ni ar 474k ar hyn o bryd. Hanner ffordd i'r miliwn!"
Hefyd o ddiddordeb: