Uned arbennig i ddelio â gordewdra plant yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae'r bwrdd iechyd sydd â'r raddfa uchaf o ordewdra ymhlith plant yn sefydlu uned arbennig i fynd i'r afael â'r mater.
Mae data Rhaglen Mesur Plant Cymru yn dangos bod 30.3% o blant pedair a phump oed yng ngogledd Cymru naill ai dros bwysau neu'n ordew.
Cyfartaledd Cymru yw 26.4% ond mae meddygon yn ofni y gallai'r raddfa godi yn sgil y pandemig.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn chwilio am rywun i arwain gwasanaeth newydd a fydd yn cadw llygad ar bwysau plant.
Nid effeithiau'r pandemig yw'r rheswm dros sefydlu'r gwasanaeth, ond mae yna ofnau bod gorfod cau ysgolion yn gwaethygu'r broblem.
Pam bod gordewdra ymysg plant ar gynnydd?
Dywed Dr Naomi Simmons, sy'n ymgynghorydd plant yn Ysbyty Glan Clwyd: "Rwy'n ofni bod y pandemig yn gwneud gordewdra sydd eisoes yn broblem yn waeth.
"Ry'n ni'n falch bod plant ddim yn dioddef o effeithiau Covid yr un fath ag oedolion - ond ry'n yn bryderus am effaith hirdymor y pandemig ar iechyd plant.
"Mae peidio cael y drefn arferol a pheidio cael yr ymarfer corfforol y mae rhywun yn ei gael yn yr ysgol yn cyfrannu at hyn."
'Wedi methu fel rhieni'
Mae Daniel o Sir Ddinbych (nid ei enw iawn) yn dad i ferch chwech oed sydd wedi cael ei chyfeirio at glinig Dr Simmons.
Cafodd ei chyfeirio gan feddyg teulu oherwydd pryderon am ei phwysau.
"Roeddwn yn meddwl ein bod yn ei bwydo hi'n iawn. Roedd hi'n cael ffrwythau, llysiau a bwyd cartref ond roedd hawl ganddi i gael losin a siocled," meddai.
"Roedd cael gwybod ei bod yn ordew yn newyddion ofnadwy. Roedden ni'n hynod o siomedig ac yn flin - a doeddwn i ddim yn credu ei bod yn ordew. Roedden ni'n dau yn gofyn sut ein bod wedi methu fel rhieni."
Gyda chymorth clinig Dr Simmons, mae merch Daniel wedi colli pwysau ac mae arwyddion bod problemau corfforol, fel yr iau ddim yn gweithio'n iawn, yn gwella.
Er gwaethaf ymdrechion i gadw ei ferch yn ffit ac yn iach mae Daniel yn gweld bod y cyfnod clo wedi effeithio ar ei ferch yn gorfforol a meddyliol.
"Mae'r cyfnod wedi cael effaith ar ei hiechyd meddyliol hefyd," meddai.
"Dim ond chwech oed yw hi a dyw hi ddim am gael ei gweld gan bobl eraill ar y stryd," ychwanegodd.
"Ymhen blynyddoedd bydd Covid wedi mynd ac fe fyddwn yn gallu ei reoli ond mae gordewdra yn mynd i fod yn broblem barhaol. Mae effaith hirdymor gordewdra yn fy nychryn - nid ei effaith ar fy merch yn unig ond plant eraill hefyd."
Sut mae gordewdra yn effeithio ar iechyd plant?
Dywed Dr Simmons bod meddygon bellach yn trin plant sydd â phroblemau iechyd sy'n fwy cysylltiedig ag oedolion, a hynny o ganlyniad i'r cynnydd mewn gordewdra plant.
"Mae plant ysgol gynradd yn dioddef o broblemau gyda'r iau, pwysedd gwaed uchel ac mae nifer yn datblygu diabetes math 2," meddai.
"Blwydd oed yw fy nghlaf ieuengaf ac mae mor bwysig i deuluoedd sicrhau diet iach ac ymarfer corff. Yn anffodus y dyddiau yma ry'n yn gyffredinol yn arwain bywyd llonydd."
"Os yw plant yn ordew pan yn ifanc maen nhw 80% yn debygol o fod yn ordew pan yn oedolion," medd Dr Simmons.
Mae'n gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd "yn newid y sefyllfa".
Dywed Steven Grayston, cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaethau therapi Betsi Cadwaladr bod y bwrdd iechyd wedi bod yn cynllunio ar gyfer uned arbenigol i leddfu gordewdra ers pum mlynedd.
"Mae hon yn uned arbenigol i reoli pwysau plant sydd eisoes yn ordew," meddai.
"Byddwn yn darparu triniaethau a rhaglenni arbenigol fydd yn atal gordewdra.
"Ry'n yn hynod bryderus am effaith Covid ar ffitrwydd plant ac yn poeni nad ydynt yn gadael eu cartrefi - bydd hyn yn siŵr o gael effaith ar lefelau gordewdra ac fe fydd plant o bosib yn colli diddordeb mewn gweithgareddau ymarfer corff."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017