Y telynor Osian Ellis wedi marw yn 92 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r telynor, awdur a cherddor dawnus Osian Ellis yn 92 oed.
Yn enedigol o Ffynnongroyw yn Sir y Fflint aeth i astudio yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol cyn mynd ymlaen i fod yn Athro'r Delyn yno am 30 mlynedd.
Bu hefyd yn brif delynor gyda Cherddorfa Symffoni Llundain.
Roedd yn cael ei ystyried yn athrylith ei offeryn, ac fe gafodd darnau eu cyfansoddi yn arbennig ar ei gyfer gan nifer o gyfansoddwyr gan gynnwys Alun Hoddinott, William Mathias, Jørgen Jersild, William Alwyn a Robin Holloway.
Fe ffurfiodd berthynas arbennig hefyd gyda Benjamin Britten, ac fe roddodd yntau rannau i'r delyn yn nifer o gyfansoddiadau gydag Osian Ellis mewn golwg i'w perfformio.
Ef oedd Llywydd Anrhydeddus Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru, ac fe gafodd y CBE yn 1971.
Yn fwy diweddar roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith Canolfan Gerdd William Mathias.
Mewn teyrnged ar eu gwefan, dywedodd y Ganolfan: "Bu'n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru.
"Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a'r CBE gan y Frenhines.
"Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a'i wyrion, David a Katie, yn eu profedigaeth."