30 o swyddi'r Llyfrgell Genedlaethol yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi colli 23% o'i staff ers 2008

Mae 30 o swyddi yn y fantol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wrth i'r sefydliad geisio ailstrwythuro ei staff.

Mae gweithwyr yn y llyfrgell wedi derbyn manylion strwythur arfaethedig newydd wrth i ymgynghoriad 30 diwrnod ddechrau.

Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu mae'n debygol y bydd hyd at 30 o swyddi cyfwerth a rhai llawn amser yn cael eu colli.

Mae'r llyfrgell yn anelu at wneud arbedion ar ôl yr hyn y mae wedi'i ddisgrifio fel "tanariannu hanesyddol systematig gan Lywodraeth Cymru."

Dywed Llywodraeth Cymru na fu'n bosib cynyddu'r cymorth refeniw oherwydd "pwysau cyllidebol digynsail".

Ym mis Medi cwblhawyd adolygiad annibynnol o'r llyfrgell. Prif argymhelliad yr adolygiad oedd i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i anghenion ariannol y sefydliad.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pedr ap Llwyd y llynedd fod sefyllfa y llyfrgell yn "anghynaladwy"

Ar y pryd dywedodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell, Pedr ap Llwyd, fod sefyllfa y llyfrgell yn "anghynaladwy" ac "os anwybyddir argymhellion yr adolygiad bydd yr argyfwng presennol yn arwain at weithredu nifer o fesurau niweidiol i gydbwyso'r gyllideb yn y tymor hir, gan gynnwys y gwir bosibilrwydd o orfod lleihau ein gweithlu hyd at 30 aelod o staff."

Ar hyn o bryd mae tua 225 o staff yn gweithio yn y llyfrgell. Mae disgwyl i'r ymgynghoriad ar y strwythur newydd barhau tan 15 Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall fod y cyfnod presennol yn un anodd iawn i'r sector diwylliant a threftadaeth, a bod trafod unrhyw golli swyddi yn "bryder gwirioneddol".

Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi "gallu amddiffyn cymorth grant y Llyfrgell rhag unrhyw ostyngiadau ond oherwydd pwysau cyllidebol digynsail ni fu'n bosibl cynyddu'r cymorth refeniw".

"Mater i'r Llyfrgell yn awr yw gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gall weithredu'n effeithiol o fewn y cyllidebau sydd ar gael."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Brif Weithredwr y Llyfrgell am ymateb.

Pynciau cysylltiedig