Busnesau i orfod gwneud asesiad risg Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd rhaid i fusnesau gynnal asesiad risg Covid-19 o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Fe fydd yr asesiadau'n cynnwys ystyried materion fel a ydy'r awyru yn ddigonol, hylendid, sicrhau bod pobl yn cadw pellter ac yn gorchuddio eu hwynebau.
Bydd unrhyw fusnes sy'n gyflogi pump neu fwy o weithwyr yn gorfod cynnal asesiad risg o'r fath.
Fe fydd y canllawiau newydd hefyd yn cynnwys ystyried sut mae cyflogwyr yn sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn gallu gweithio o gartref.
Daw wrth i Mr Drakeford ddweud bod yna "dystiolaeth arwyddocaol" - drwy system Profi, Olrhain a Diogelu Cymru - o drosglwyddiad coronafeirws mewn archfarchnadoedd.
Ond ychwanegodd fod archfarchnadoedd yn "llefydd saff" a bod y rheolau diweddaraf yn ymgais i'w gwneud nhw'n "hyd yn oed saffach".
'Codi'r safon ar gyfer y rhai a allai wella'
Mae Cymru o dan y lefel llymaf o gyfyngiadau ar hyn o bryd, sy'n golygu y caiff pobl ond gadael eu cartrefi am resymau hanfodol, gan gynnwys siopa am fwyd.
Ond mae pryder cynyddol gan siopwyr a staff am ddiogelwch mewn archfarchnadoedd, ac mae Mr Drakeford wedi dweud eisoes bod systemau un-ffordd a chyfyngu ar niferoedd mewn siopau yn ymddangos fel eu bod wedi diflannu.
Mae rhai gweithwyr yn dweud iddyn nhw weld siopwyr yn mynd o gwmpas heb fygydau, yn gwrthod defnyddio mesurau hylendid ac yn siopa mewn grwpiau mawr.
Mae rhai gweithwyr hefyd wedi dweud eu bod yn dioddef camdriniaeth yn ddyddiol gan siopwyr sy'n torri'r rheolau.
Dywedodd Mr Drakeford bod cam-drin gweithwyr siopau yn "gwbl annerbyniol".
Dywedodd Mr Drakeford wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener: "Rhaid adolygu a diweddaru'r asesiadau risg yn rheolaidd, pan fydd amgylchiadau'n newid ac rwyf eisiau nodi'n glir yn y gyfraith bod hyn yn cynnwys pan fydd lefelau rhybudd y coronafeirws yn newid yng Nghymru.
"Mae gweinidogion wedi cyfarfod yr wythnos hon gyda manwerthwyr allweddol i drafod eu rôl hanfodol yn ystod y pandemig.
"Maent yn nodi'r camau maent yn eu cymryd, o ddarparu diheintyddion ar gyfer dwylo a throlïau wrth fynd i mewn i siopau; cyfyngu ar y niferoedd yn y siop ar unrhyw un adeg; a gwneud cyhoeddiadau rheolaidd yn atgoffa pobl i gadw pellter oddi wrth bobl eraill.
"Byddwn yn cryfhau'r rheoliadau i sicrhau bod manwerthwyr yn cymryd y camau hyn fel bod eu heiddo mor ddiogel â phosibl i siopwyr a hefyd i'w cyflogeion.
"Mae llawer eisoes yn gweithredu safonau uchel ac mae angen i ni godi'r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella."
Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn gorfodi pobl i wisgo mwgwd mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n cynnwys archfarchnadoedd, ond mae nifer o'r mesurau eraill wedi bod yn ganllawiau yn unig yn hytrach na chyfreithiau.
Yn flaenorol mae Mr Drakeford wedi awgrymu y byddai'n hoffi gweld mesurau mewn siopau - megis sticeri pellter 2m, cyfyngu ar niferoedd yn y siop a systemau un-ffordd - yn dychwelyd i'r hyn a welwyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth y llynedd.
'Cynnydd da' ar frechu
Wrth siarad yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford fod y llywodraeth yn gwneud "cynnydd da" tuag at gyrraedd y targed o roi brechlyn Covid i'r rhai sydd yn y grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis nesaf.
Datgelodd hefyd bod nifer y canolfannau brechu nawr yn 45 - y targed gwreiddiol oedd 35 erbyn diwedd mis Ionawr.
Mae dros 126,000 o bobl yn barod wedi cael eu brechlyn cyntaf, er bod beirniadaeth bod cyfraddau'r bobl sy'n cael eu brechu yn is yng Nghymru na gweddill y DU.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni'n gwneud cynnydd da tuag at ein carreg filltir o gynnig y brechlyn i holl weithwyr y rheng flaen a gweithwyr gofal; pawb sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a phawb dros 70 oed erbyn canol mis Chwefror.
"Rydyn ni'n disgwyl cyflenwadau o'r brechlyn i gynyddu yn yr wythnosau nesaf a bydd hynny yn ein caniatáu i gynyddu cyflymdra'r rhaglen frechu.
"Rydyn ni angen cyflenwad rheolaidd a dibynadwy er mwyn parhau gyda'n hymdrechion brechu wrth i ni symud ymlaen," ychwanegodd.
Beirniadaeth
Roedd y gwrthbleidiau yn y Senedd yn feirniadol o gyflymder y rhaglen frechu.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae pethau'n gwella, ond maen nhw'n gwella yn llawer rhy araf.
"Os edrychwn ni ar y fferyllfa yn Nefyn... wel mae hynny'n un fferyllfa allan o 600 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
"Er ei bod yn bwysig bod gennym un fferyllfa yn brechu, beth sy'n digwydd yn y lleill i gyd?"
Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: "Yn sicr dyw e ddim yn digwydd yn ddigon cyflym, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu.
"Fe glywson ni gan y prif weinidog bod 126,000 bellach wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru, ond ry'n ni'n gwybod o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru bod 327,000 dos o'r brechlyn wedi cael eu derbyn yng Nghymru ac mae'n bwysig nawr i gael y brechlynnau yna allan i'r bobl."
Gall fferyllwyr cymunedol helpu gydag ymdrech brechu Covid "mewn mwy nag un ffordd" ychwanegodd Mr Drakeford.
Bu galwadau am fframwaith i gynnig y brechlyn mewn fferyllfeydd, gyda llawer eisoes wedi arfer cynnig pigiadau ffliw bob gaeaf.
Ond dywedodd Mr Drakeford na fyddai pob adeilad yn addas i ddosbarthu'r brechlynnau Covid-19.
Mae treial wedi cychwyn ym Mhen Llŷn ddydd Gwener, gyda un fferyllfa yn cynnig y brechlyn Covid-19 i bobl yno.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae llawer o fferyllfeydd cymunedol, fel y bydd rhai pobl a fydd wedi cael eu brechiad ffliw yno dros y blynyddoedd yn gwybod - mae'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer brechu yn gymharol fach, ac efallai y bydd nifer fawr o bobl yn anodd eu darparu.
"Mewn rhai o'r achosion hynny byddwn yn gofyn i fferyllwyr cymunedol fynd i'n canolfannau brechu torfol, lle byddant yn gallu defnyddio'r sgiliau a'r profiad sydd ganddynt i gael mwy o frechlynnau nag y byddent yn gallu eu gwneud yn eu hadeiladau eu hunain."
54 o farwolaethau
Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 54 o farwolaethau yn rhagor ddydd Gwener, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig i 4,171.
Cafodd 1,808 o achosion newydd eu cofnodi hefyd, sy'n golygu bod 177,864 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach.
Bellach mae 126,375 o bobl (4% o'r boblogaeth) wedi cael y dos cyntaf o frechlyn Covid-19, gyda 129 hefyd wedi derbyn ail ddos.
Daeth newyddion calonogol hefyd gan Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, sy'n dweud bod y rhif R yng Nghymru wedi gostwng i rhwng 0.8 ac 1.1.
Cyn y Nadolig, roedd y rhif rhwng 1 ac 1.3.
Y rhif R sy'n dangos faint o bobl sy'n cael eu heintio gan bob person sydd â'r haint.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020