Galw am fod yn fwy llawdrwm gyda phobl sy'n torri rheolau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BannauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod pobl yn "llwyr anwybyddu" rheolau'r cyfnod clo

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod angen bod yn fwy llawdrwm gyda phobl sy'n torri rheolau Covid-19 a "rhoi bywydau mewn perygl".

Dywedodd Arfon Jones bod pobl "hunanol" yn parhau i anwybyddu'r rheolau a gyrru i wahanol leoliadau heb fod angen yn ystod y cyfnod clo.

Daw wedi i bedwar llanc o Ellesmere Port gael eu hatal gan yr heddlu rhag dringo Mynydd Tryfan yn Eryri yn y tywyllwch, mewn dillad anaddas.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sadwrn bod pobl yn "llwyr anwybyddu" rheolau'r cyfnod clo er gwaetha'r ffaith eu bod wedi derbyn sawl rhybudd.

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 45 o farwolaethau yn rhagor ddydd Sadwrn, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig i 3,964.

Cafodd 1,660 o achosion newydd eu cofnodi hefyd, sy'n golygu bod 169,745 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach.

'Cwbl anghyfrifol'

"Mae llawer gormod o bobl hunanol sy'n anwybyddu'r canllawiau ac yn cyflymu lledaeniad y feirws," meddai Mr Jones.

"Mae eu hymddygiad yn gwbl anghyfrifol ac yn rhoi bywydau pobl mewn perygl. Os nad ydyn nhw'n poeni am eu hiechyd eu hunain, fe ddylen nhw feddwl am y bobl maen nhw'n eu caru.

"Mae hi rŵan yn amser i anghofio'r syniad o annog ac addysgu, a chanolbwyntio ar orfodaeth fel y gallwn ni atal y rheiny sy'n torri rheolau Covid ac atal eu hymddygiad difeddwl."

Ffynhonnell y llun, EyeImagery
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Arfon Jones mae pobl "hunanol" yn parhau i anwybyddu'r rheolau a gyrru i wahanol leoliadau heb fod angen

Beth ydy'r rheolau?

Dan gyfyngiadau lefel 4 mae'n rhaid i unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, a does dim hawl teithio i leoliad arall i ymarfer - mynd yn y car i ddringo mynydd, er enghraifft.

Oni bai eich bod yn gallu cerdded i rywle o'ch cartref, fel mynyddoedd Eryri neu Fannau Brycheiniog, does dim hawl teithio yno er mwyn ymarfer corff.

Yr unig reswm dros deithio i ymarfer ydy os oes rheswm na allwch chi wneud hynny o'ch cartref, fel pobl mewn cadair olwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 100 o geir eu troi am yn ôl gan yr heddlu ym Moel Famau ddydd Sadwrn

Ychwanegodd Mr Jones bod yr amrywiolyn newydd o'r feirws yn golygu ei bod mor bwysig ag erioed i aros adref a gwarchod y gwasanaeth iechyd.

"Mae'r neges i aros adref ac aros yn ddiogel yn bwysicach nag erioed oherwydd mae straen newydd Covid-19 yn lledaenu hyd yn oed yn haws," meddai.

"Mae hyn wedi cynyddu'r perygl o ledaenu yn y gymuned, gyda 70% o achosion gogledd Cymru bellach wedi'u cysylltu â'r amrywiolyn newydd.

"O ganlyniad, mae pobl gogledd Cymru mewn mwy o berygl nag erioed."

'Rhoi swyddogion mewn perygl'

Dywedodd Mr Jones hefyd bod ymddygiad rhai yn rhoi heddweision mewn perygl am eu bod yn gorfod cael eu hachub.

"Mae'n hollol annerbyniol bod ein swyddogion dewr yn cael eu rhoi mewn perygl diangen, fel 'da ni wedi'i weld gydag esiamplau ohonynt yn mynd yn sownd mewn eira yn ceisio achub y bobl wirion yma," meddai.

Dywedodd tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sadwrn eu bod wedi "gwastraffu diwrnod arall yn delio gyda phobl sy'n torri rheolau Covid".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y mwyaf o bobl sy'n casglu, y mwyaf yw'r perygl o ledaenu neu ddal y feirws."