Enwau Cân y Babis 2020
- Cyhoeddwyd
Er fod y byd wedi bod ar stop yn 2020, doedd 'na ddim stop ar y babis bach a ruthrodd i'n bywydau.
Ymddangosodd enw 248 babi newydd yn un o'r 12 Cân y Babis gafodd eu cyfansoddi gan Caryl Parry Jones ar gyfer y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2.
Ond pa enwau oedd y rhai mwyaf poblogaidd?
Enwau mwyaf poblogaidd merched (a'r nifer)
Alys (5)
Ani/Anni (3)
Elsi (3)
Glain (3)
Greta (3)
Lois (3)
Mabli (3)
Mali (3)
Ana (2)
Beca (2)
Beti (2)
Cadi (2)
Casi (2)
Efa (2)
Ela (2)
Elan (2)
Enid (2)
Enlli (2)
Erin (2)
Ester/Esther (2)
Gwen (2)
Gwenno (2)
Leusa (2)
Lili (2)
Loti/Lotti (2)
Nel (2)
Non (2)
Cafodd 113 o ferched bach eu henwi yn y caneuon y llynedd, gydag Alys ar y brig eto fel yn 2019. Roedd 49 enw a ymddangosodd unwaith yn unig, fel Briall, Etta, Maia, Nêf a Prydwen.
Enwau mwyaf poblogaidd bechgyn (a'r nifer)
Gruff/Gruffydd (6)
Deio (5)
Gwion (5)
Osian (5)
Tomos (5)
Elis (4)
Jac (4)
Efan (3)
Hari/Harri (3)
Mabon (3)
Macs/Macsen (3)
Daniel (2)
Eban (2)
Gwilym (2)
Gwydion (2)
Idris (2)
Ifan (2)
Ioan (2)
John (2)
Now (2)
Owain (2)
Owi (2)
Robin (2)
Tomi (2)
134 o enwau bechgyn gafodd eu henwi yn y caneuon gan Caryl yn 2020. Yr enw Gruff neu Gruffydd sydd wedi gwibio i'r brig, gyda chwe babi o'i gymharu â thri y flwyddyn flaenorol. Dim ond unwaith yr ymddangosodd 62 o'r enwau, gan gynnwys Alun, Gus, Noa, Sianco a Wilbert, yn y rhestr.
Ydych chi eisiau cael enw eich babi chi mewn cân? E-bostiwch sioefrecwast@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: