'Dim amser gwell' i chwilio am arian at gynllun twf
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr ymgyrch i ddenu buddsoddiad gwerth dros biliwn o bunnau i ogledd Cymru'n dweud bod "dim amser gwell" i fynd at fuddsoddwyr.
Fe gafodd Cais Twf Gogledd Cymru ei arwyddo gan y chwe awdurdod lleol, y sectorau addysg uwch a phellach ac arweinwyr busnes fis diwethaf.
Fel hwb cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £240m rhyngddyn nhw dros y 15 mlynedd nesaf.
Ond er mwyn creu'r 3,800 o swyddi sy'n cael eu haddo bydd angen cannoedd o filiynau o bunnau o fuddsoddiad pellach o'r sector preifat.
Er gwaethaf effaith posib y pandemig a Brexit ar yr economi, mae arweinwyr y cynllun twf yn dadlau bod hwn yn adeg dda i ddechrau chwilio am fuddsoddwyr.
"Mae'n adeg heriol ofnadwy i fynd i'r farchnad i siarad am gyfleoedd i fuddsoddi," medd Alwen Williams, cyfarwyddwr rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
"Ond os na 'den ni'n cychwyn y drafodaeth rŵan, yna fydd hi'n rhy hwyr.
"Felly dwi'n meddwl fod o'n adeg dda, dwi'n meddwl fod o yr amser iawn."
Chwilio am gyfleoedd
Mae Cais Twf Gogledd Cymru yn cynnwys 14 prosiect mewn sectorau fel ynni carbon isel, gweithgynhyrchu uwch, bwyd-amaeth a thwristiaeth, yr economi ddigidol a thir ac eiddo.
Gallai'r prosiect cyntaf, Morlais, gymryd cam ymlaen eleni.
Mae'r cynllun ar gyfer ardal 35 cilomedr sgwâr i dechnoleg ynni llanw oddi ar arfordir Ynys Môn yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Cynllunio ar hyn o bryd.
Mynnu bod buddsoddwyr yn chwilio am gyfleoedd mae Ms Williams.
"Lle mae buddsoddiad wedi cael ei weld dros y degawd diwethaf, fel uchel-fuddsoddiadau mewn llefydd fel y Middle East, maen nhw rŵan yn cychwyn edrych yn ehangach, ac yn edrych ar beth sydd gan ranbarthau ym Mhrydain ac yng Nghymru i gynnig iddyn nhw fel buddsoddwyr," meddai.
'Gwasgaru prosiectau fel bod pob rhan yn elwa'
Her arall i'r cynllun fydd lleihau'r gwahaniaeth yn yr economi rhwng y dwyrain a'r gorllewin.
Ar gyfartaledd mae incwm yn is yng ngogledd-orllewin Cymru na'r gogledd-ddwyrain.
Mae rhai wedi awgrymu y gallai'r cynllun twf gynnal neu hyd yn oed gynyddu'r anghyfartaledd yna - gydag adnoddau a phobl yn cael eu denu fwyfwy i'r dwyrain.
Gwrthod hynny mae un o'r rhai a helpodd i lunio'r cynllun, Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor.
"Mae prosiectau wedi eu gwasgaru ar draws yr ardal i wneud yn siŵr bod pawb yn elwa ohonynt," meddai.
"Mae 'na hefyd elfen transportation i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio i'r swyddi sy'n cael eu creu, dim ots lle maen nhw'n byw yng ngogledd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2017