Y ddrama pedoffilia 'oedd rhaid i mi ysgrifennu'

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle

Mae'r awdures Rhiannon Boyle wedi ysgrifennu drama radio newydd, Safe from Harm, (Radio 4) sy'n delio gyda'r pwnc tabŵ pedoffilia. Mewn darn arbennig ar Cymru Fyw, mae Rhiannon yn esbonio pam ei bod wedi dewis ysgrifennu am y thema yma mewn drama sy' wedi ennill gwobr Awdur Preswyl Cymru 2019.

Doedd gennai ddim dewis efo ysgrifennu'r ddrama hon oherwydd o'n i'n gwybod fod rhaid i mi sgwennu hi. Tydi peidio siarad am y pwnc tywyll yma ddim yn mynd i wneud iddo ddiflannu.

Felly, gadewch i mi gymryd chi nôl ychydig o flynyddoedd i'r amser pan oedd fy mhlant yn fach iawn. Mi ges i ddwy o enethod bach gorjys o fewn ugain mis i'w gilydd, a phan es i nôl i weithio'n llawn amser ar ôl fy ail gyfnod mamolaeth, does gen i ddim cywilydd dweud mi oeddwn i'n stryglan.

Doedd y babi ddim yn cysgu a minnau'n teimlo'n ofnadwy o fregus yn feddyliol. O edrych yn ôl, doedd fy iechyd meddwl ddim mewn lle da, er o'r tu allan o'n i'n ymdopi'n iawn.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle

Straeon y wasg

Ar y pryd dwi'n cofio un neu ddau o straeon yn y wasg am ddynion oedd wedi cael eu harestio am droseddau yn erbyn plant. Dynion normal, eithaf clên yr olwg gyda gwragedd a phlant. Dynion fel ein gwŷr, ein brodyr a'n ffrindiau.

Fe gafodd hyn effaith mawr arna i. Dechreuais i feddwl efallai gallai unrhyw ddyn fod yn bedoffilydd. Dechreuais i hel meddyliau intrusive ac afresymol ac amau pob dyn o fewn llathen i'r genod.

O edrych yn ôl rŵan dwi'n gweld fod y meddyliau yma yn hollol paranoid a gwallgof, er oedden nhw'n eithaf real ar y pryd. A dyma sbardunodd stori y ddrama Safe from Harm. Ac felly, mae 'na dipyn ohona i yn y prif gymeriad Alys, er wrth gwrs drama hollol ffuglennol yw hi.

Dwi wedi creu cymeriadau eithriadol a naratif dramatig ac wedi cymryd Alys i berfeddion dyfnaf a thywyllaf ei phroblemau iechyd meddwl er mwyn creu sefyllfaoedd sy'n llawn gwrthdaro, tensiwn a thyndra.

Perthynas cymdeithas â pedoffilia

Ma'n werth dweud fan hyn, i fi, tydi'r ddrama yma ddim am bedoffilia, er dyma'r pwnc mae pawb yn ffocysu arno. Mae hyn yn ei hun yn ddiddorol. I mi drama am famolaeth, iechyd meddwl a sut mae un digwyddiad trawmatig yn gallu effeithio ar gymdeithas gyfan yw hi. Felly pam mae pawb yn glynu at y themâu pedoffilia? A be' mae hynny yn dweud wrthym ni am ein perthynas, fel cymdeithas, â'r pwnc?

Am un peth mae'n deud wrtha i fod y pwnc yn rhywbeth mae pobol yn terrified ohono. Tydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad mod i wedi ysgrifennu'r ddrama yma rhai blynyddoedd yn ôl a dim ond rŵan mae hi'n gweld golau dydd. Dwi wedi curo ar lot o ddrysa efo hon credwch chi fi.

Er bob tro oedd rhywun yn dweud wrtha'i fod y pwnc yn rhy tabŵ, yn rhy anghyfforddus, roedd hynny yn gwneud i mi feddwl - gwell rheswm fyth i roi'r stori yma allan yn y byd. Dwi'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig i ni archwilio a dysgu am y pwnc tywyll yma sy'n effeithio ar gymaint o bobl, ac nid fi yw'r unig un - fel dywedodd y cymdeithasegwr Dr Sarah D Goode: "If we want to keep children safe from sexual harm, then surely knowing what we're dealing with would be a good first step."

'Byw mewn cywilydd ac ofn'

Un o fy hoff gymeriadau yn y ddrama yw Christian. Mae Christian yn be' sy'n cael ei alw yn bedoffilydd celibate. Mae'n ddyn sy'n dioddef o feddyliau anweddus tuag at blant er nid yw erioed wedi niweidio plentyn na phrynu neu edrych ar unrhyw ddeunydd anaddas o blant.

Tydi Christian erioed wedi troseddu a tydi o erioed yn bwriadu gwneud chwaith. Mae'n ddyn da sy'n casáu'r meddyliau tywyll a'r chwantau afiach mae'n ei deimlo. Mae'n byw mewn cywilydd ac ofn.

Fe greais i'r cymeriad yma ar ôl gwylio rhaglen ddogfen o'r enw The Paedophile Next Door. Roedd y rhaglen yn dangos dynion tebyg i Christian a oedd yn byw'r fath fywyd unig a chymhleth. Doeddwn i erioed wedi meddwl fod y fath bobl yn bodoli ac felly roeddwn i'n credu byddai creu cynrychiolaeth bositif o bedoffilydd yn ddiddorol ac yn rhywbeth na welwyd o'r blaen.

Fel rhan o'm hymchwil fe es i i Lundain i ymweld ag elusen o'r enw The Lucy Faithfull Foundation. Mae'r elusen yma yn gweithio gyda, ac yn cefnogi, pobl â meddyliau a theimladau anaddas tuag at blant. Rhai sydd eisoes wedi troseddu a rhai sydd ddim.

Es i i weld Deborah Denis, rheolwr yr elusen, am sgwrs ddifyr iawn. Dywedodd hi eu bod nhw wedi cael galwad i'r llinell gymorth gan lanhawr ffenestri o Gaerdydd. Ar y pryd roedd hi'n haf ac roedd llawer o enethod bach yn eu gerddi mewn pyllau padlo.

Roedd y dyn wedi sylwi ei fod yn hel meddyliau anaddas tuag at y genod bach yma yn eu gwisgoedd nofio. Aeth y dyn i weld y doctor a dywedodd y doctor: "Paid â phoeni, 'da ni gyd yn cael y meddyliau yma weithiau."

Doedd e ddim yn fodlon â'r ateb yma felly aeth at yr heddlu: "Wyt ti eisiau i ni dy roi ar y sex offenders register?" meddai nhw. "Na" oedd ei ateb wrth gwrs. "Dwyt ti heb dorri unrhyw gyfraith nac wedi cyflawni unrhyw drosedd," meddai nhw cyn ei yrru i ffwrdd.

Ffoniodd y dyn llinell gymorth y Lucy Faithfull Foundation. Doedd ganddo unman i droi. Doedd o ddim eisiau brifo unrhyw blentyn ac roedd o angen help i beidio.

Felly dyna pam oedd rhaid i mi ysgrifennu'r ddrama hon. Os ydw i fel mam eisiau teimlo fy mod i wedi gwneud popeth i amddiffyn fy mhlant fy hun, mae dechrau trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn lle da i ddechrau.

Os ydyn ni eisiau stopio plant rhag cael eu niweidio mae'n rhaid i ni gynnig cefnogaeth i'r bobl yma cyn eu bod nhw'n troseddu, ac nid ar ôl.

Cymylau a heulwen

Wedi dweud hyn oll ac esbonio fy nghymhelliant mae hi'n bwysig dweud - er bod y ddrama'n drwm mae yna ddarnau o hiwmor a goleuni ynddi. I mi dyna yw bywyd, cymysgedd o gymylau a heulwen, dagrau a chwerthin, ying a yang ochr yn ochr. Gall un ddim bodoli heb y llall.

Mae yna wastad elfen o ddifrifoldeb yn y stwff doniol dwi'n sgwennu ac i'r gwrthwyneb. I mi, drama am famolaeth a greddf mam i amddiffyn ei phlant yw hi. Mae hi'n ddrama sy'n cynnig dealltwriaeth, trugaredd ac addysg ar y pwnc tabŵ pedoffelia ond yn y bôn mae hi hefyd yn rhoi gobaith i ni.

Mae Safe From Harm yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4 ar Ionawr y 20fed am 2:15yh ac yna ar BBC Sounds am 30 diwrnod.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig