Teulu Sala'n galw am ddyddiad cwest i'w farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala (chwith) ar fwrdd awyren gyda'r peilot David Ibbotson pan aeth i drafferthion

Mae teulu Emiliano Sala wedi galw am bennu dyddiad pendant i'r cwest i'w farwolaeth ddwy flynedd wedi iddo farw.

Fe blymiodd awyren gyda Sala a'r peilot David Ibbotson i'r Sianel ar ei ffordd o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd wrth i'r chwaraewr gael ei drosglwyddo i'r clwb o Gymru.

Mewn datganiaid dywedodd y teulu: "Mae'n drasiedi nad ydym yn gwybod yn union sut a pham y bu farw Emiliano ddwy flynedd wedi'r digwyddiad.

"Cwest yw'r unig ffordd o ganfod y gwirionedd llawn."

Ym mis Mawrth 2020, dywedodd crwner na fyddai cwest llawn i farwolaethau'r ddau ddyn yn digwydd tan o leia' Mawrth 2021.

Bu oedi yn wreiddiol gan nad oedd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cwblhau ei ymchwiliad i'r digwyddiad, ond bellach mae'n rhaid i unrhyw gwest ddisgwyl am ddiwedd unrhyw achosion troseddol allai ddeillio o'r trasiedi.

Mae David Henderson wedi ei gyhuddo o beryglu diogelwch awyren a cheisio cario teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod i wneud hynny, ac mae'n gwadu'r cyhuddiadau.

Honnir i Mr Henderson drefnu'r awyren i gludo Emiliano Sala at ei glwb newydd yng Nghaerdydd.

Carbon monocsid

Ym mis Hydref y llynedd dywedodd crwner Dorset, Rachael Griffin, y byddai'r cwest llawn yn cael ei ohirio tan ddiwedd achos Mr Henderson, sydd ddim yn dechrau tan 18 Hydref 2021.

Mae teulu Sala'n galw ar y crwner i bennu dyddiad i'r cwest ddechrau ar unwaith wedi'r achos.

Aeth yr awyren Piper Malibu N264DB oedd yn cario Sala a Mr Ibbotson ar goll ger Ynysoedd y Sianel.

Fe gymrodd bythefnos i dimau achub ganfod gweddillion yr awyren, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff Mr Sala ar 8 Chwefror 2019.

Nid yw corff Mr Ibbotson fyth wedi ei ganfod.

Daeth adroddiad y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) i'r casgliad bod yr awyren wedi bod yn gollwng carbon monocsid yn ystod y daith.

Dywedodd ymchwilwyr mai un ffactor gyfrannodd at y digwyddiad oedd nad oedd Mr Ibbotson wedi cael hyfforddiant i hedfan yn y nos, ac nad oedd wedi cael ymarfer diweddar yn rheoli awyren gan ddefnyddio teclynnau'r dashfwrdd yn unig.

Yn ogystal roedd ganddo drwydded peilot preifat oedd ddim yn caniatáu iddo gael ei dalu i hedfan.

Er bod lefelau uchel o garbon monocsid yng ngwaed corff Mr Sala, daeth archwiliad post mortem i'r casgliad ei fod wedi marw o anafiadau i'r ben a'i gorff.