'Gallai Covid roi diwedd ar obeithion athletwyr am fedalau'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru dderbyn y gallan nhw ei chael yn fwy anodd i ennill medal eleni os ydyn nhw'n cael Covid-19 wrth baratoi am y gemau, yn ôl meddyg blaenllaw.
Rhybuddiodd Dr Rhodri Martin o Chwaraeon Cymru y gallai gostyngiad o 2% yn unig mewn perfformiad roi diwedd ar obeithion athletwyr o ennill medal.
Byddai'n rhaid iddyn nhw baratoi iddo amharu ar eu hyfforddiant hefyd - ar hyn o bryd mae athletwyr yn gorfod disgwyl 17 diwrnod o ddechrau eu symptomau cyn bod modd iddyn nhw ailddechrau hyfforddi.
Ond mae Dr Martin yn credu y bydd y mwyafrif o athletwyr sy'n cael Covid-19 yn gallu dychwelyd i'w lefelau perfformio arferol yn y pendraw.
Mae trefnwyr y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn mynnu y bydd y gemau'n cael eu cynnal yr haf hwn, wedi iddyn nhw orfod cael eu canslo y llynedd oherwydd y pandemig.
"Mae'r broblem yn wahanol i wahanol gampau," meddai Dr Martin.
"Os ydych chi'n rhedwr marathon, byddai'n rhaid i chi ddechrau cynyddu eich pellteroedd o'r newydd eto, ac mae hynny'n cymryd amser.
"Ar gyfartaledd mae athletwyr sy'n cael Covid ysgafn yn ôl o fewn dwy neu dair wythnos, a Covid ysgafn mae'r mwyafrif o athletwyr yn ei gael, ond yr agosaf ydych chi at yr hediad i Tokyo, yr anoddaf yw e."
'Gallen i gael e'n eithaf gwael'
Fe wnaeth Olivia Breen ennill medalau aur i Gymru yn y 100m a'r naid hir yng Ngemau Paralympaidd y Gymanwlad yn 2018, ac mae hi'n gobeithio bod yn rhan o dîm Prydain yn Tokyo.
Ond gan fod ganddi barlys yr ymennydd (cerebral palsy) mae Breen yn poeni y byddai cael Covid-19 yn cael effaith mawr arni.
"Oherwydd y cyflwr, mae 'na siawns y gallen i gael e'n eithaf gwael," meddai.
"Mae blinder yn symptom felly dydw i ddim yn credu y bydden i'n gwella'n dda iawn.
"Rydw i'n bod yn ofalus iawn - yn golchi fy nwylo trwy'r amser ac yn codi'n gynnar iawn i fynd i'r gampfa cyn pawb arall.
"Rydw i'n bod yn wyliadwrus iawn oherwydd rwy'n gwybod y byddai Covid yn cael effaith enfawr arna i - ac fe fydden i fwy na thebyg yn gwella'n arafach.
"Rwy'n gobeithio am fedal, ond mae'n rhaid i mi fod yn ofalus am sut rwy'n mynd ati i wneud hynny - rydw i 100% yn siŵr y bydd popeth rwy'n aberthu werth e yn y diwedd."
'Allan o fy rheolaeth'
Athletwr arall sy'n anelu am fedal aur yn y Gemau Paralympaidd ydy Matt Bush o Sir Benfro - y dyn cyntaf o Gymru i fod yn bencampwr Taekwondo'r byd.
Ar hyn o bryd mae'n rhannu ei amser rhwng ei gartref yn ne-orllewin Cymru ac ym Manceinion er mwyn hyfforddi ym mhencadlys tîm Taekwondo Prydain.
Ond mae aros yn ddiogel rhag Covid-19 yn gallu bod yn unig - tra ym Manceinion mae Bush yn byw mewn gwesty, ac nid yw'n gallu gweld unrhyw ffrindiau oherwydd y cyfyngiadau.
"Dydw i ddim yn cymysgu gydag unrhyw un ac yn ceisio gwneud fy ngorau i gadw at yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrtha i i'w wneud," meddai.
"Dydy'r feirws ddim yn bryder penodol i fi - beth allwch chi ei wneud ond dilyn y rheolau?
"Mae'n gallu bod yn ddifrifol iawn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i mi dderbyn bod rhai elfennau o hyn allan o fy rheolaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2018