'Modd cynnal yr Euros yn ddiogel,' medd cyn-hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, yn hyderus y bydd modd cynnal pencampwriaeth pêl-droed yr Euros yn ddiogel eleni.
Mewn cyfweliad arbennig â rhaglen Dros Frecwast dywedodd Mr Roberts, o'i gartref ym Morocco, y bydd angen ail-ystyried ac ail-strwythuro'r gemau, ond y dylai'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen er mwyn codi calonnau pobl yn ystod yr argyfwng.
Roedd y bencampwriaeth fod i gael ei chynnal y llynedd, ond cafodd ei gohirio tan 11 Mehefin i 11 Gorffennaf 2021.
Mae yna adroddiadau bod llywydd UEFA, Aleksander Čeferin, yn ystyried a ddylai'r gystadleuaeth gael ei chynnal mewn un wlad yn unig yr haf hwn yn hytrach nag ar draws y cyfandir yn ôl y trefniadau gwreiddiol.
"Mae'n sefyllfa anodd iawn," medd Osian Roberts wrth siarad â Dylan Ebenezer.
"Y peth pwysig ydi, os yn bosib, bod y gystadleuaeth yn parhau, oherwydd 'dan ni'n gweld gymaint mae pêl-droed yn ei olygu i bawb.
"Ond ar gyfer yr Euros y peth cyntaf ydi iechyd pawb. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bosib. Dwi'n meddwl bydd rhaid ail-strwythuro, ac ail-newid sut mae'r gemau'n mynd yn eu blaenau ac yn lle."
Bellach yn rhan o Ffederasiwn Brenhinol pêl-droed Morocco, mae ei dîm cenedlaethol newydd yn Cameroon ar hyn o bryd yn cystadlu fel un o 12 gwlad sy'n rhan o bencampwriaeth Cwpan Cenhedloedd Affrica.
"Mae'r gemau yn parhau yn Cameroon, wrth gwrs mae'r rheolau yn llym ond mae'n dangos bod o'n gallu digwydd," mae'n ychwanegu.
'Hwb ar gyfnod anodd'
Hyd yn oed os na fydd modd i gefnogwyr deithio i wylio'r gemau, mae Osian Roberts yn credu y bydd cynnal y bencampwriaeth yn rhoi hwb i gefnogwyr ar adeg anodd.
"Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r stadiwm, bod nhw o leia' yn cael pêl-droed i'w cadw nhw fynd a bod hynny yn helpu pawb.
"Does dim rhaid cael pêl-droed, ond mae pobl yn dioddef. Dydi pobl ddim yn gweld ei gilydd. Mae'n amser anodd i bawb ymdopi. Mae'r African Cup of Nations yn esiampl wych bod 'na bosibilrwydd i bethau allu gweithio ac yn help i bobl ymdopi â'r amser caled yma," ychwanegodd.
'Tîm cryf y tro hwn'
Ar nodyn gobeithiol arall, mae Osian Roberts yn credu bod y garfan y tro hwn hyd yn oed yn well na'r un helpodd e i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Euro 2016.
Mae'n dweud ei fod yn falch o'r system hyfforddi ieuenctid roedd e wedi helpu i'w sefydlu ddegawd yn ôl er mwyn datblygu talent ifanc y garfan.
"Dan ni'n gwbod bod y genhedlaeth ifanc yma yn genhedlaeth speshal iawn. Maen nhw wedi ennill a bod yn llwyddiannus yn y Victory Shield. Mae'r hogia gafodd eu geni yn '99-2001 yn dod drwadd i adio at yr hogia profiadol sy gynnon ni'n barod felly mae'r cyfuniad yna wedi gweithio'n grêt," ychwanegodd Osian Roberts.
I Osian, bydd sicrhau amser i Aaron Ramsey a Joe Allen ar y cae yn holl bwysig, ond mae e'n sicr bod y tîm yma yn gryfach nag erioed,
"Mae'r dyfnder efallai yn well, fyswn i'n cytuno efo hynny, ond 'dan ni angen hogia fel Joe, Aaron, Gareth, Ben a Wayne Hennesey - 'dan ni angen yr hogia profiadol yna - a'r cyfuniad yna allai sicrhau ein bod ni'n llwyddiannus eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020