Holocost: Ffoi ar y trên olaf o Brâg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dogfennau Renate Collins
Disgrifiad o’r llun,

Dogfennau teithio Renate Collins

"Ro'wn i ar y trên olaf allan o Brâg cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau. Fi oedd yr ieuengaf ar y trên Kindertransport, a fi yw'r unig un sy' wedi goroesi allan o'r teulu cyfan."

Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost mae Renate Collins, 87, o Gil-y-Coed (Caldicot), Sir Fynwy yn rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.

Wedi ffoi ar un o drenau Kindertransport yn 1939 yn bump oed, cafodd y ferch fach ei chroesawu i gartref gweinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhorth, Cwm Rhondda. Trefnwyd y Kindertransport gan Syr Nicholas Winton er mwyn i blant Iddewig ffoi cyn dechrau'r rhyfel.

Collodd Renate 65 aelod o'i theulu yn yr Holocost ac welodd hi ddim mo'i rhieni eto. Dyma ei stori.

Ar y diwrnod roedd y trên yn gadael Prâg roedd gen i frech yr ieir a thymheredd o 105. Ro'wn i'n aros ar y platfform gyda fy mam, oedd yn nyrs theatr, a'i ffrind hi, oedd yn feddyg.

Dywedodd fy mam wrth ei ffrind, 'Alla'i ddim roi Renate ar y trên, mae hi'n rhy sâl.'

A dywedodd y ffrind, 'Hilda, os na wnei di roi hi ar y trên, fydd hi byth yn gadael.'

Dyna wirionedd oedd hynny oherwydd roedd gan Syr Nicholas [Syr Nicholas Winton] drên hwyrach oedd i fod i adael ar ddechrau Medi 1939. Ond dechreuodd y rhyfel a gadawodd y trên ddim gorsaf Prâg hyd yn oed.

Felly wnaeth y plant oedd i fod ar y trên hynny byth allu dianc a, hyd y gwn i, wnaeth ddim un ohonynt oroesi'r rhyfel. Felly os na fydden i wedi mynd ar y trên hwnnw... ro'wn i'n lwcus iawn fy mod i wedi cael dianc.

Taith anodd

Gorweddais i lawr drwy'r daith ac ro'wn i'n mess erbyn i fi gyrraedd Lloegr, yn boeth ac roedd fy nghoesau wedi'u plastro.

Roedd rhaid i unrhyw un dan saith mlwydd oed ar drenau Kindertransport gael cartref i fynd iddo.

Cyrhaeddais orsaf Liverpool Street, Llundain a chael fy rhoi i'r gŵr bonheddig yma oedd yn gwisgo het ddu, cot ddu, siwt ddu a choler offeiriad. Allwch chi ddychmygu plentyn pump oed gyda dyn bron i chwe troedfedd o daldra nad yw hi erioed wedi cyfarfod o'r blaen ac yn gorfod mynd gyda fe?

Roedd ganddo wên hyfryd ac i ffwrdd â fi! Roedd y Parchedig Sidney Coplestone yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhorth ac roedd ef a'i wraig Arianwen, oedd yn dod o Abergwaun, wedi fy maethu.

Gwahanu

Ar ôl i fi adael Prâg, cafodd yr Iddewon i gyd eu cymryd i'r holding concentration camp yma o'r enw Terezin ac yna anfonwyd fy mam a fy nain i [wersyll difrodi]Treblinka.

Anfonwyd fy ewythr a fy nhad i Auschwitz a dyna lle lladdwyd nhw.

Lladdwyd fy hen fodryb, a oedd yn gerflunydd, yn Lodz.

Dyna'r unig bump tystysgrif marwolaeth sy' gen i.

Roedd tystysgrif marwolaeth fy mam yn dweud fod hi a'i mam wedi cael eu lladd yn Treblinka. Ond daeth fy mab o hyd i'w records nhw yn Israel ddwy flynedd yn ôl a dyma beth digwyddodd iddyn nhw.

Roeddent ar eu ffordd i Treblinka pan dorrodd y trên i lawr. Yn lle aros i'r trên gael ei drwsio ac yna parhau â'r daith, fe'u saethwyd i gyd a'u cludo i Treblinka i gael eu claddu. Felly wnaethon nhw byth fyw yno.

Cofio

Yr unig beth dwi'n teimlo yw nad oes gen i lawer o ddim ar ôl o fy nheulu. Ond roedd y meddyg oedd yn ffrind i fy mam wedi llwyddo i ddianc oherwydd bod ganddi fwy o ryddid fel meddyg.

Cyn iddi fynd, pobodd fy mam dorth o fara a rhoi ei modrwy ddyweddïo hi a modrwy ddyweddïo ei mam a chas arian gyda chrib yn y dorth a'i rhoi i'r meddyg. Daeth y ffrind â rhain gyda hi i Lundain ar ôl y rhyfel - felly mae gen i'r trysorau hynny.

Dyna'r unig beth sy' gen i er cof am fy nheulu cyfan.

Atgofion

Dwi ddim yn cofio dim byd o'r cyfnod hynny (cyn ffoi i Gymru) a dw i'n meddwl ei fod yn seicolegol. Roedd fy mywyd i yn y gorffennol wedi diflannu - roedd popeth wedi mynd.

Pan aethon ni i Brâg i gael y tystysgrifau marwolaeth buon ni yn yr ystafell records - bu farw 88,000 o Iddewon ym Mhrâg ac mae cerdyn ar gyfer pob un.

Pan aethon ni i mewn i weld eu henwau ar y wal yn synagog Pinkas ym Mhrâg roedd Otto a Hilda Kress [rhieni Renate] wedi eu aduno.

Sefais ar y wal a dywedodd fy ngŵr mai dyna'r mwyaf o emosiwn i fi ddangos yno. I feddwl eu bod nhw wedi marw mewn llefydd ar wahân ar wahanol adegau ac yna roedden nhw ar y wal gyda'i gilydd.

Achub

Rhwng 1939 a 1988 doeddwn i ddim yn gwybod mai Syr Nicholas Winton ddaeth â ni i Brydain. Yn rhaglen Esther Rantzen [daeth gwaith Syr Nicholas yn achub mwy na 600 o blant Iddewig i'r amlwg yn 1988 ar raglen y BBC That's Life!] mae Syr Nicholas yn sefyll i fyny yng nghanol yr holl bobl wnaeth e achub ac mae menyw yn eistedd yn agos ato yn gwisgo ffrog werdd lachar. Dyna fi.

Roedd yn brofiad swreal iawn. Gwnaeth e ddim effeithio arna'i tan ar ôl y rhaglen.

Bywyd yng Nghymru

Pan gyrhaeddais i Gymru doeddwn i ddim yn siarad Saesneg - yr unig eiriau Saesneg ro'wn i'n gwybod oedd yes a no. Ro'wn i'n siarad Almaeneg a Tsieceg - oedd ddim yn lot o help yng Nghwm Rhondda.

O'n i fel rhyw rhyfeddod, y ferch hon oedd wedi dod o wlad doedd neb wedi clywed amdani ac yn methu siarad Saesneg!

Pan nad o'n i'n deall rhywun ar stepen y drws, o'n i'n slamio'r drws yn eu gwynebau! Gyrhaeddais i ym mis Gorffennaf ac roedd yn rhaid i fi ddechrau'r ysgol ym mis Medi a chario 'mlaen. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn anodd ond dwi wedi cael ffrindiau gwych yng Nghymru.

Roedd fy mam fabwysiedig Arianwen yn dod o Abergwaun, yn siarad ac yn pregethu yn Gymraeg (ar ôl astudio gyda'r ysgol Feibl ym Mhorth) ac roedd yn rhaid i fi ddysgu ychydig o eiriau Cymraeg.

Roedden ni'n mynd i'r Gymanfa Ganu yng nghapel Hermon yn Abergwaun bob Pasg. Roedd yn hyfryd ac ro'wn i'n mwynhau hynny'n fawr.

Mabwysiadodd y teulu fi - roedd yn rhaid imi ddod yn British citizen er mwyn cael fy mabwysiadu ac roedd rhaid aros am gadarnhad bod fy nheulu i gyd wedi marw. Doedd gen i ddim byd i fynd yn ôl ato.

Dw i wedi bod yn lwcus iawn, dw i wedi cael bywyd da pan dw i'n meddwl am weddill fy nheulu, i gyd wedi diflannu.

Priodais â dyn o Gernyw ac mae ei deulu wedi bod yn anhygoel.

Diwrnod Cofio'r Holocost

Dwi'n ymwybodol o'r Holocost drwy'r flwyddyn oherwydd mod i wedi colli 65 aelod o fy nheulu.

Yn llythrennol, does gen i neb ar ôl o fy nheulu yn Tsiecoslofacia. Mae'r diwrnod yn golygu digwyddiad blynyddol i gofio'r Holocost i lawer o bobl ond does dim rhaid fy atgoffa i.

Pan chi'n cyrraedd fy oedran i, chi'n tueddu i beidio ag edrych ymlaen, chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth sy' wedi digwydd yn ystod eich oes.

Peidiwch ag anghofio amdano a gwnewch bywyd yn well fel nad yw'n digwydd eto.

Dyw'r Diwrnod Cofio'r Holocost ddim yn cofio am yr Holocost yn unig - mae'n cofio Rwanda, Daifur a llefydd eraill hefyd. Dydyn ni ddim wedi dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol.

Yr unig wahaniaeth gyda'r Holocost oedd hyn - roedd un dyn yn benderfynol i'r hil hon gael ei ddarfod. Erbyn hyn mae pobl yn cael eu lladd gan eu cydwladwyr eu hunain.

Rwy'n falch iawn bod Tsiecoslofacia wedi rhannu'n ddau ac yn cyd-dynnu â'i gilydd. Mae Slofacia a'r Weriniaeth Tsiec yn ddwy wlad ac maen nhw'n hapus ochr yn ochr ond mae gennych chi wledydd eraill sy' wedi gwahanu ac mae'r bobl hynny nawr yn erbyn ei gilydd.

Mae'n rhaid i ni gyfleu'r neges bod yn rhaid i ni ddysgu byw gyda'n gilydd. Pa bynnag gymuned ydych chi, mae'n rhaid i chi ddysgu byw gyda chymunedau eraill.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar Cymru Fyw yn Ionawr 2021.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig