Y Cymro wnaeth gyfweld goroeswyr Auschwitz

  • Cyhoeddwyd
Llion Roberts (ar y dde) gyda Ed Mosberg un o'r bobl wnaeth oroesi gwersyll rhyfel AuschwitzFfynhonnell y llun, Destination Unknown/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Llion Roberts (ar y dde) gyda Ed Mosberg, un o'r bobl wnaeth oroesi gwersyll rhyfel Auschwitz, tynnwyd y llun yn 2017

Mae hi'n 75 mlynedd ers i'r carcharorion yng ngwersyll difa Auschwitz gael eu rhyddhau gan filwyr Sofietaidd ar 27 Ionawr 1945.

Lladdwyd dros filiwn o bobl yno gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd - y rhan fwyaf ohonyn nhw'n Iddewon. Dim ond ychydig filoedd a lwyddodd i oroesi'r erchyllterau yno.

Drwy hap a damwain, cafodd Llion Roberts o Gaernarfon gyfle i gyfarfod rhai o'r goroeswyr, a threulio 13 mlynedd yn rhoi'r atgofion at ei gilydd mewn ffilm ddogfen arbennig.

Go brin y byddai Llion Roberts wedi dychmygu be' oedd o'i flaen pan aeth i ymweld ag Auschwitz yn 2001.

Tra ar daith yno, un a oedd wedi'i drefnu gan ei frawd, fe wnaeth y lle gryn argraff arno, ac fe benderfynodd ei fod eisiau creu ffilm ddogfen am y peth.

Ond er iddo dreulio dwy flynedd yn gwneud gwaith ymchwil, hap a damwain ddaeth ag o mewn cysylltiad ag un o oroeswyr y gyflafan - gan ddechrau ar brosiect sydd wedi cymryd bron i 15 mlynedd i'w chwblhau.

"Dim ots pa mor hir oedd yr ymchwil, dim ond crafu'r wynab oeddach chdi'n mynd i 'neud gan fod y peth mor enfawr," meddai Llion.

"O'n i angen ryw eitem technegol a dim ond y cwmni 'ma o Efrog Newydd oedd yn gwneud nhw felly dyma fi'n ffonio.

"O'n i methu cael gafael arnyn nhw ond pan wnaethon nhw ateb yn y diwedd, dyma nhw'n egluro ei bod hi wedi bod yn gyfnod y gwyliau Iddewig felly doedd neb yn y gwaith o gwmpas.

"Dyma ni'n mynd i siarad am yr Holocaust a dyma fo'n d'eud bod ei dad o'n Bloc 11 yn Auschwitz.

"Dyma fo'n dweud y bysa fo'n cael ei dad ar y ffôn a dyna be' 'naeth o. Dyma ni'n mynd i siarad ac mi ddywedodd y tad: 'I will line them up for you.'

"Nes i hedfan draw i Efrog Newydd a, wir i chdi, dyma'r goroeswyr yn dod i fewn one by one. Dyma fi'n cyfweld wyth yn yr wythnos gynta'."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim trugaredd y tu hwnt i giatiau Auschwitz

Mae Destination Unknown wedi ennyn canmoliaeth gan Branko Lustig, cyfarwyddwr y ffilm eiconig, Schindler's List.

"Mi fydda fo'n rhy hwyr i 'neud o rŵan," meddai Llion. "Yr unig bobl bysa ti'n cael gafael arnyn nhw fyddai'r bobl fydda wedi bod yn bump oed ar y pryd a fysa nhw methu rhoi'r manylion i chdi.

"Doedd o heb gael ei gynllunio fel'na - ffliwc oedd o. Dwi'n cofio d'eud fyswn i wedi licio eu cyfweld nhw 10 mlynadd ynghynt ond mi ddywedon nhw na fysan nhw wedi bod yn barod i siarad adeg yna."

Gyda dros 400 awr o ffilm wedi'i recordio, roedd y ffilm ddogfen yn fater o lafur cariad i Llion Roberts. Ac er mai dyma ydy ei ffilm gyntaf fel cynhyrchydd, mae'n dweud nad ydy o'n brin o brofiad.

"Dydw i heb fynd mewn i gynyhyrchu dros nos," meddai cyd-gyfarwyddwr cwmni Gigatel. "Dwi wedi bod yn gynhyrchydd am bron i ddegawd a hannar - fel'na dwi'n sbio arni.

"Doedd gen i ddim syniad pa mor hir oedd o'n mynd i gymryd. Darllediad teledu oedd o'n wreiddiol, ond cafodd 'na benderfyniad ei wneud rhyw dair mlynadd yn ôl i'w 'neud o fel feature doc.

"Mae'n hollol wahanol, does 'na ddim byd tebyg iddo fo. Mae'n reit syml, does 'na ddim narration, ti ddim yn clywad cwestiwn na dim byd, dim ond primary sources."

Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mai 2017

Hefyd o ddiddordeb: