Artistiaid yn gweld mwy yn dwyn eu syniadau ar y we
- Cyhoeddwyd
O raglenni fel Grayson's Art Club i boblogrwydd gwefannau fel Etsy, mae 'na fwy nag erioed ohonon ni'n troi ein llaw yn llythrennol at greu - a'r cyfnodau clo dros y 12 mis diwetha' wedi cynnig mwy o amser i wneud.
Ond mae rhai artistiaid proffesiynol wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw eu bod yn poeni bod 'na fwy a mwy o bobl yn dwyn syniadau a chopïo eu gwaith - ac yn galw am fwy o gymorth i warchod eu hawliau.
Yn artist proffesiynol ers 2009, mae Niki Pilkington wedi gweithio ar draws y byd a'i darluniau yn amlwg ar y we.
Er ei bod wedi arfer gweld pobl yn ceisio efelychu'i gwaith dros y blynyddoedd, mae'n dweud bod pethau wedi gwaethygu'n arw yn ddiweddar.
Gwaeth nac erioed
"'Dio byth 'di bod mor ddrwg â hyn," meddai.
"Mae 'na lot o bobl ar furlough neu wedi colli'u gwaith, sy'n ofnadwy, felly dwi'n dallt bod pobl angen trio gwneud petha' newydd - ac mae lot o bobl yn troi at grefftio.
"Ond mae o jest yn anodd pan mae pobl yn dwyn syniadau. Mae o'n gut wrenching - mae'n wneud i mi deimlo'n drist.
"Dwi'n treulio gymaint o amser ar y pethau 'ma felly os dwi wedyn yn gweld pobl yn jyst copïo fo mae o'n rili upsetting.
"Dwi'n gwerthu prints fi ar-lein ac ar y platfform dwi'n defnyddio, fedri di reportio petha' ond ti angen law degree - ti angen llenwi cannoedd o forms mewn a 'dio ddim werth o."
Mae Niki yn galw am fwy o warchodaeth fel ei bod hi'n haws i artistiaid a chrefftwyr amddiffyn hawlfraint ar eu gwaith.
"Ella os fasa 'na ffordd ar y gwefannau sy'n gwerthu - fatha 'accountability history' yn dangos pa lun oedd yr un original a bod y lleill wedi dod ers hynny.
"Fasa'n briliant os fasa'n haws dwyn achos ond dwi'm yn siŵr sut fasa hynny'n bosib heb rywbeth lengthy a costly.
Artist arall sydd wedi gweld cynnydd mewn twyll ydy Carys Bryn, sydd hefyd yn athrawes gelf.
"Pan o'n i'n ifanc oeddach chi'n gorfod mynd i lyfr a dim ond yr artistiaid enwog oeddach chi'n gwybod amdanyn nhw, ond rŵan mae 'na gymaint o ddylanwad ar gael, mae o bron iawn yn amhosib i chi ffeindio syniad sydd yn hollol wreiddiol," meddai.
"Fedrwch chi gopïo arddull neu fedrwch chi ddwyn syniad, maen nhw'n ddau beth hollol wahanol. Ma' dwyn syniad rywsut yn waeth fyth."
'Amlwg pan mae 'na rywun yn copïo'
Mae Gwyn Jones, cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, ger Pwllheli, hefyd yn gweld y broblem ar gynnydd.
"Mae o'n digwydd - mae o 'di digwydd i artistiaid sy'n arddangos eu gwaith yma," meddai.
"Maen nhw 'di cymryd blynyddoedd i dorri'u cwys eu hunain efo'u talent a'u harddull eu hunain, felly mae'n weddol amlwg pan mae 'na rywun yn copïo ac mi rydach chi'n gweld esiamplau fwyfwy o hynny'n digwydd.
"Dwi'n meddwl mai'r rheol o 30% yn gyfreithiol ydy o o ran copïo. Ond mae 'na warchodaeth i'w gael, a grŵp gafodd ei sefydlu yn 2004 sydd i'w weld yn gwarchod hawlfraint ar ran artistiaid. Mi gafodd ei greu gan griw o ddylunwyr oedd yn diodde' o hyn.
"Be' sy'n rhoi artistiaid i ffwrdd ydy'r gost o fynd â rhywun i'r llys. Dyna pam bod grwpiau fel y 'Protect my Work' yma'n gallu bod o help."
Mae Jonty Gordyn o gwmni cyfreithiol Amgen yn arbenigo mewn hawlfraint ac eiddo deallusol.
Er bod y cyfreithiau yn eu lle i warchod y sector greadigol, mae o'n credu bod angen newid y system fel ei bod hi'n haws i bobl ddwyn achos.
"Mae 'na yn sicr gynnydd wedi bod o waith yn cael ei gopïo - nid yn unig celf, ond hefyd brandio," esbonia.
"Mae'r cyfreithiau o ran hawlfraint yn eitha' eang - mae'r hawlfraint yn berchen i bwy bynnag sy' wedi creu'r gwaith. Ond yn anffodus, mae'r costau o amddiffyn yr hawliau yn beth ofnadwy o anodd.
"Mae angen edrych ar yr ochr ymarferol, yr ochr lysol o hyn, ac efallai ystyried camau drwy'r llys sydd efo costau isel neu hyd yn oed ryw fath o yswiriant i'r rhai sy'n creu i'w cefnogi yn ariannol drwy'r prosesau yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020