Y chwilio am bysgotwyr coll y Nicola Faith yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio am dri o bysgotwyr sydd ar goll ger arfordir y gogledd wedi dod i ben.
Mae Gwylwyr y Glannau wedi bod yn ceisio darganfod cwch y Nicola Faith, wnaeth fethu â dychwelyd i harbwr Conwy ar ôl gadael ddydd Mercher.
Ddydd Gwener daeth cadarnhad mai enwau'r tri yw Alan Minard, 20, Ross Ballantine, 39, a'r capten Carl McGrath, 34 - a'u bod i gyd yn dod o ardal Conwy.
Mae timau achub o ardaloedd Bangor, Llandudno, Fflint a'r Rhyl wedi bod yn rhan o'r chwilio ynghyd â Heddlu'r Gogledd a hofrennydd y gwylwyr yng Nghaernarfon.
Ni fydd timau'n mynd allan i chwilio ymhellach oni bai y bydd mwy o wybodaeth yn dod i law.
Brynhawn Gwener dywedodd un o reolwyr Gwylwyr y Glannau, Rob Priestley, eu bod wedi chwilio'n ddwys mewn ardaloedd eang oddi ar arfordir y gogledd ond "yn drist iawn nad ydynt wedi canfod dim hyd yn hyn".
"Ry'n ni'n meddwl am y teuluoedd yn ystod y cyfnod trist hwn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn chwilio ac yn darparu gwybodaeth."
'Tridiau gwaethaf erioed'
Dywedodd cariad Mr McGrath, Amy Lamb, ei bod yn "torri ei chalon".
"Dwi isio iddo fo ddod yn ôl," meddai wrth wefan Conwy Nub News. "Mae fel arfer yn mynd allan rhwng Rhos a Chonwy.
"Mae wedi bod yn gwneud y gwaith ers tua pedair blynedd bellach, felly mae'n handi iawn.
"Mae'n gwybod yn union beth mae'n ei wneud ac mae'n hollol wych yn ei swydd. Mae'n debyg ei fod yn un o'r pysgotwyr gorau yng Nghonwy.
"Roedd yn adeiladwr yn wreiddiol ac fe adeiladodd y cwch ei hun ac yna daeth yn bysgotwr a rhagori yn hynny a dweud y gwir."
Roedd disgwyl i'r tri ddychwelyd i Gonwy yn hwyr nos Fercher.
Cafodd criwiau eu galw am 10:30 fore Iau, ac roedd badau achub o bob rhan o ogledd Cymru yn rhan o'r "digwyddiad o bwys".
Roedd rhaid gohirio'r ymgyrch nos Iau, ond fe wnaeth timau ail-ddechrau eto fore Gwener.
Dywedodd chwaer Ms Lamb, Hannah, bod teuluoedd y pysgotwyr wedi cael y "tridiau gwaethaf erioed".
"Dydyn ni ddim yn gwybod be' i wneud hefo'n hunain - does dim allwn ni wneud."
Mae rhai o berthnasau Mr Minard, sydd yn dod o Benmaenmawr, wedi bod yng ngorsaf bad achub Llandudno ddydd Gwener.
Fe ddywedon nhw wrth BBC Cymru ei fod o wedi bod yn gweithio yn Nyfnaint fel prentis peiriannydd ar longau, ond ei fod wedi symud yn ôl i ogledd Cymru oherwydd y pandemig.
Roedd ond wedi bod yn gweithio ar y cwch pysgota ers rhai wythnosau.
Ychwanegodd y teulu bod y criw wedi bod yn gollwng potiau cimwch wrth iddyn nhw fynd allan i bysgota fore Mercher.
Eu gobaith yw fod injan y cwch wedi methu, a'i fod wedi drifftio y tu hwnt i'r ardal lle bu'r timau achub yn chwilio ddydd Iau.
Dywedodd gwirfoddolwr RNLI Y Rhyl, Paul Frost, fod y gwaith chwilio yn cwmpasu ardal enfawr: "Mae'n llythrennol gannoedd o filltiroedd sgwâr, mae'r ardal a chwiliwyd yn rhywbeth fel 30 milltir ar draws tua 15 milltir allan hefyd.
"Dyna pam mae cymaint o adnoddau wedi'u defnyddio i geisio chwilio'r ardal yn ddigonol."
Wrth ei ddisgrifio fel "oer iawn, iawn", dywedodd nad yw amodau'r môr "yn rhy ddrwg", ond roedd tywyllwch y nos wedi ei gwneud hi'n anoddach chwilio.
"Mae gan yr awyren infrared fel y gallan nhw weld unrhyw wres ar yr wyneb, a hefyd gall y badau achub ddefnyddio fflerau, goleuadau chwilio, pethau fel hynny - felly nid yw o reidrwydd yn ein rhwystro," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021