'Dim effaith' ar gyflenwadau brechlyn Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud na fydd y ffrae barhaus dros gyflenwadau brechlyn Covid yn Ewrop yn effeithio ar Gymru.
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi gwneud tro pedol ar benderfyniad i ddiystyru rhan o'r fargen Brexit dros dro er mwyn atal cyflenwadau rhag dod i mewn i'r DU.
Wrth siarad â Radio Wales am ei adroddiad blynyddol fore Sadwrn, dywedodd Dr Frank Atherton fod y rhaglen frechu yn "mynd yn dda" yng Nghymru.
"Mae dosbarthiad brechlynnau yn cael ei reoli ar lefel y DU - felly yn amlwg mae pryderon pan fydd y mathau hyn o faterion yn chwythu i fyny," meddai.
"Nid ydym wedi cael unrhyw air y bydd unrhyw darfu ar gyflenwadau yn dod i mewn i Gymru ar hyn o bryd."
Ond dywedodd hefyd: "Mae angen i ni gadw ein rhaglen frechlyn i symud cymaint â phosib - rydyn ni bob amser wedi dweud ei bod yn ddibynnol ar y cyflenwad."
'Chwarae gemau yn helpu neb'
Ddydd Gwener fe gyhoeddodd yr UE eu bod am weld gwiriadau ar ffin Iwerddon a Gogledd Iwerddon i atal llwythi o'r brechlynnau rhag dod i mewn i'r DU.
Mae yna brinder brechlynnau o fewn yr UE, ac roedd 'na bryder y gallai'r ffin efo Iwerddon gael ei defnyddio i gael mynediad i'r DU.
Ond fe ddaeth tro pedol o Frwsel oriau yn ddiweddarach yn dilyn beirniadaeth hallt o Lundain, Belffast, Dulyn a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
"Yr heriau mewn gwirionedd yw cael pawb yn Ewrop a'r byd i gael eu brechu - ond ar hyn o bryd nid wyf yn gweld unrhyw risg benodol i bobl Cymru," meddai Dr Atherton.
"Mae'n wir bod gemau'n cael eu chwarae gan y cwmnïau, gan wahanol wledydd... nid yw hynny'n helpu unrhyw un."
Brynhawn Sadwrn, dywedodd Michael Gove o Swyddfa Gabinet Llywodraeth y DU, fod yr Undeb Ewropeaidd yn cydnabod eu bod "wedi gwneud camgymeriad".
Dywedodd Mr Gove ei fod yn "hyderus" o gyflenwad brechlyn y DU a'u bod "ar y trywydd iawn" i gyflawni 15 miliwn o bigiadau erbyn 15 Chwefror.
Yn siarad yn gynharach ddydd Sadwrn, fe amlinellodd Dr Frank Atherton pa wersi sydd wedi eu dysgu yng Nghymru yn sgil y don gyntaf o Covid-19 llynedd.
Galwodd am agwedd unedig tuag at iechyd cyhoeddus a materion amgylcheddol.
Ymhlith ei awgrymiadau eraill mae mwy o bwyslais ar fod yn arloesol a buddsoddiad yn y maes iechyd.
Pan ofynwyd iddo pam fod mwy na 100,000 o bobl wedi marw yn y DU o'r feirws, dywedodd Dr Atherton bod pobl yn y maes meddygol "wedi dysgu llawer".
"Mae yna nifer o bethau y gallem fod wedi gwneud yn well gyda budd o edrych yn ôl," meddai.
"Wrth baratoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol, mae angen i ni wella ein gêm wrth baratoi.
"Un o'r gwersi mawr yw os ydyn ni'n ymlacio'r mesurau hynny yn gyflym, cyn bo hir, rydyn ni'n mynd yn ôl i sgwâr un."
Ymestyn y cyfnod clo 'y peth iawn i'w wneud'
Fel rhan o'r adolygiad i reolau'r cyfnod clo cenedlaethol, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai'r cyfyngiadau'n parhau am o leiaf y tair wythnos nesaf.
Yr unig newid i'r cyfyngiadau ydy bod modd i berson wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gydag un person arall sydd ddim o'r un aelwyd â nhw o ddydd Sadwrn ymlaen.
Wrth ymateb i'r adolygiad diweddaraf, dywedodd Dr Atherton: "Rydyn ni wedi bod yn ofalus ac rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
"Rydyn ni wedi dysgu, os ydyn ni'n llacio'r cyfyngiadau'n rhy gyflym, gallai'r feirws atgyfodi'n gyflym iawn.
"Y cyfnod adolygu nesaf fydd edrych ar ysgolion.
"Mynd i mewn yn galed, rhoi'r mesurau i mewn, ond dod allan yn araf.
"Mae angen i ni gael yr economi i weithio, mae angen i ni gael pobl yn ôl i'r gwaith.
"Mae anghydraddoldebau dwfn iawn yn dod o'r pandemig hwn - nid ydym i gyd wedi dioddef yn gyfartal, mae rhai wedi dioddef mwy na'r mwyafrif.
"Y tlotaf, y lleiaf cefnog sydd wedi dioddef fwyaf. Mae angen i ni gofio hynny wrth wneud penderfyniadau hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021