Gobeithio gwireddu 'breuddwyd' o ysgol Gymraeg i Dredegar

  • Cyhoeddwyd
Ffordd y Siartwyr
Disgrifiad o’r llun,

Ar Ffordd y Siartwyr yn Nhredegar y mae'r cynlluniau i adeiladu'r ysgol

Blaenau Gwent yw'r unig sir yng Nghymru sydd â dim ond un ysgol Gymraeg, ond fe allai hynny newid dan gynlluniau newydd y cyngor i adeiladu ysgol newydd sbon yn Nhredegar.

Mae ymgyrch wedi bod i ehangu addysg Gymraeg yn y dref ers hanner canrif, a gyda'r ymgynghori wedi dod i ben ddiwedd mis Ionawr, dyma'r agosaf, yn ôl ymgyrchwyr, maen nhw wedi dod at wireddu'r nod.

"Mae e wedi bod yn frwydr hir ac mae wedi bod yn freuddwyd i fi i gael ysgol Gymraeg yn Nhredegar," meddai Meryl Darkins, un o drigolion y dref, sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers y dechrau.

"Dy'n ni byth wedi cyrraedd mor bell â hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sefydlu ysgol Gymraeg yn Nhredegar wedi bod yn 'freuddwyd' ers blynyddoedd i Meryl Darkins

Yn ôl Ms Darkins mae rhwystrau mawr yn wynebu pobl yr ardal, sy'n golygu bod cyrraedd yr unig ysgol Gymraeg presennol ym Mlaenau yn atal llawer rhag cael mynediad at addysg Gymraeg.

"Ym Mlaenau Gwent, mae perchnogaeth ceir yn isel iawn ac felly er enghraifft, pe bai plentyn yn mynd i'r ysgol draw ym Mlaenau, a bod y plentyn yn sâl yn ystod y dydd, yn aml iawn, fydd y rhieni heb gar i fynd i nôl y plentyn.

"Mae dau fws i gyrraedd pentref Blaenau, ac wedyn cerdded o'r pentref lan i'r ysgol. Mae'r rhein yn ffactorau sy'n mynd trwy feddyliau pobl, pan maen nhw'n meddwl pa mor rhwydd yw e i hala'ch plentyn i'r ysgol Gymraeg."

Mae'r cyngor yn cynnig adeiladu'r ysgol ar safle ar Ffordd y Siartwyr, gan agor cyfleuster gofal plant, grwpiau meithrin a dosbarth derbyn erbyn mis Medi 2023.

Y bwriad wedyn yw tyfu'r ysgol o flwyddyn i flwyddyn, a'i sefydlu'n llawn erbyn 2029 gyda lle i 210 o blant.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jenna Leigh-Waters bod amser teithio yn effeithio ar benderfyniad trigolion Tredegar i anfon eu plant i'r ysgol Gymraeg ar ochr arall y sir

"Es i i ysgol Gymraeg, mae fy mhlant i yn yr ysgol Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae angen iddyn nhw deithio i Flaenau," meddai Jenna Leigh-Waters, sy'n byw yn Nhredegar ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg ym Mlaenau.

"Byddai fe jyst yn gyfle i blant lleol fynd i ysgol Gymraeg, yn eu hardal leol ac nid trafeilio hanner ffordd dros y sir i fynd i'r ysgol.

"Mae digon o blant yn Nhredegar sydd eisiau addysg Gymraeg ond rwy'n credu'r teithio o fan hyn draw sy'n rhoi nhw off i fod yn onest."

Yn y ddogfen ymgynghori, mae Cyngor Blaenau Gwent yn dweud ei fod yn ymateb i'r galw cudd am fwy o leoedd gofal plant ac ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sy'n byw yn Nhredegar a chymoedd Sirhywi ac Ebwy Fawr.

Pynciau cysylltiedig