Miloedd 'ar goll' o driniaeth canser ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Profiad y Parch. Guto Prys ap Gwynfor sy'n byw â chanser

"O'n i fod i gael canlyniadau ar ôl tair wythnos i'r llawdriniaeth, ond nawr mae'n agos i chwech wythnos wedi mynd a dwi ddim wedi clywed eto."

Mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn un o filoedd o bobl sydd wedi gweld oedi i driniaeth canser yn sgil pandemig Covid-19.

Yn ôl elusen Macmillan, mae 3,500 o bobl "ar goll" o wasanaethau canser ers dechrau'r pandemig.

Maen nhw'n dweud bod angen i'r cyhoedd wybod bod y Gwasanaeth Iechyd ar agor i bobl sydd angen profi symptomau, ond bod oedi dros gynllun gan weinidogion i daclo'r mater.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfarfod cenedlaethol i drafod gofal canser o fewn yr wythnosau nesaf.

'Miloedd heb ddod i'r fei'

Cafodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor wybod bod ganddo ganser yn fuan cyn y pandemig, ac mae'n teimlo bod gwasanaethau wedi newid yn fawr yn ystod y cyfnod.

"O ydy, mae'r gohirio yn digwydd," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Y broblem sydd gyda fi yw bod y canser yn dychwelyd, maen nhw'n tynnu y tiwmor mas ac ymhen ychydig fisoedd mae wedi dod 'nôl eto.

"A dyna sydd yn achosi y gofid wedyn ni, yr aros yma, achos bod e yn aggressive canser fel maen nhw yn ei alw fe.

"Ac ychydig fisoedd sydd ishe arno fe i 'neud ei waethaf."

Fe gafodd gwasanaethau sgrinio am ganser eu hatal am rai misoedd yn 2020 oherwydd y coronafeirws.

Mae'r Cyfarwyddwr Clinigol Canser i Gymru wedi dweud bod nifer y cleifion canser wedi cwympo 75% ar ddechrau'r pandemig, ac nad ydyn nhw wedi dychwelyd i lefelau arferol eto.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod rhai miloedd o gleifion bydden ni'n disgwyl eu gweld gyda diagnosis o ganser llynedd, sydd heb ddod i'r fei", meddai'r Athro Tom Crosby.

Mae elusen Macmillan yn amcangyfrif bod hyd at 3,500 o bobl wedi methu diagnosis yn 2020, ac wrth i'r Gwasanaeth Iechyd ddelio gyda'r pandemig, y gallai'r sefyllfa waethygu.

Disgrifiad o’r llun,

Er bod pwysau ar wasanaethau, mae Macmillan yn annog unrhyw un sydd â symptomau i weld eu meddyg teulu

I bobl fel y Parchedig Guto Prys, mae'n dweud bod rhaid iddo wneud ymdrech arbennig i gael gwybodaeth a chanlyniadau profion.

"Mae e'n synnu fi... bod pobl ddim yn cadw mewn cyswllt, ac mae angen i ddweud wrth bobl i gadw mewn cyswllt, i ffonio yr ysbyty, ffonio yr arbenigwr i 'neud yn siŵr bod y system yn gw'bod am eu bodolaeth nhw a ddim yn anghofio amdanyn nhw."

Ychwanegodd ei fod wedi gorfod gwthio i weld meddyg: "O oedd. Oherwydd bod ni ddim wedi clywed dim byd.

"Y llawdriniaeth cyn y diwethaf - o'n i ddim wedi clywed dim - ni fod i glywed o fewn tri neu bedwar mis, o'dd pum mis a chwe mis yn mynd heibio ac o'n i ddim wedi clywed dim."

Mae'n galw ar eraill i wthio er mwyn "cael y cyfle sydd yn ddyledus iddyn nhw, ac mae gan bawb yr hawl i 'neud hynny".

"Mae hawl gyda chi i'r iechyd yma, ac mae'r system yno er eich mwyn chi, y Gwasanaeth Iechyd er eich mwyn chi, gwnewch ddefnydd ohono fe os gwelwch yn dda.

"Gwnewch yn siŵr eu bod yn cofio amdanoch chi."

'Allwch chi ddim rhoi canser ar ffyrlo'

I Richard Pugh o Macmillan Cymru, y flaenoriaeth yw cyrraedd y bobl sydd "yn anffodus, yn eistedd adref ar hyn o bryd hefo symptomau, a sydd â chanser".

Mae'n annog unrhyw un sy'n gweld newid yn eu hiechyd i weithredu - "boed hynny'n beswch, lwmp neu waedu anarferol, cysylltwch gyda'ch meddyg teulu... maen nhw yna i'ch helpu".

Dywedodd wrth raglen Eye On Wales: "Allwch chi ddim rhoi canser ar ffyrlo, ac mae'n teimlo fel ein bod ni ar ffyrlo ar hyn o bryd.

"Dy'n ni'n anwybyddu risg sy'n mynd i ddod yn ôl.

"Achos bod etholiad ar y gorwel, ddyle hynny ddim ein hatal rhag cynllunio ffordd allan o hyn, ac yn anffodus dwi'n meddwl dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd cyfarfod cenedlaethol yn cael ei gynnal ymhen yr wythnosau nesaf i drafod gwasanaethau canser."

Pynciau cysylltiedig