Cwest cartref gofal: Marwolaeth 'boenus' menyw, 85

  • Cyhoeddwyd
Brithdir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cartref gofal bellach dan reolaeth cwmni newydd

Anfonwyd dynes 85 oed o gartref gofal i'r ysbyty heb ei hanes meddygol, manylion teulu nac aelod o staff y cartref gofal yn gwmni iddi, y mae cwest wedi'i glywed.

Fe glywodd y cwest, sy'n edrych ar farwolaethau saith o bobl yng nghartref gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd, am fanylion marwolaeth un o'r preswylwyr ddydd Mercher.

Clywodd y cwest fod gan Edith Evans "wallt blêr, heb ei gadw ac yn fudr gyda baw dynol ac ei bod wedi bod yn y cyflwr hwn ers cryn amser".

Dywedodd Rachel Pulman, nyrs staff yn ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar y pryd, fod gan Mrs Evans diwb bwydo stumog hefyd a oedd wedi'i heintio â MRSA.

Bu farw yn ddiweddarach o ganlyniad i sepsis a achoswyd gan yr haint.

Pan alwodd Ms Pulman y cartref am ragor o wybodaeth, dywedodd iddi siarad â Philip McCaffrey, nyrs-fetron yn y cartref, a'i fod yn "anghwrtais ac yn anghydweithredol".

"Nid oedd yn ymddangos ei fod yn poeni am yr hyn oedd yn digwydd ac nid oedd ganddo ddiddordeb," meddai.

Dywedodd wrth y crwner: "Roedd ei agwedd yn ffiaidd, roedd yn anghydweithredol, yn anghwrtais ac nid oedd yn ymddangos yn ofalgar o gwbl."

'Ewinedd bysedd budr'

Dywedodd nith Edith Evans, Gail Morris, wrth y gwrandawiad mai ei modryb oedd "bywyd ac enaid y teulu", ond iddi ddioddef "marwolaeth boenus" ym mis Medi 2005.

Doedd hi heb boeni'n ormodol am ofal ei modryb ym Mrithdir tan y pwynt lle gwelodd fod yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i'w bwydo yn fudr, meddai.

Ychwanegodd na welodd hi erioed y tiwb yn stumog Edith ac nad oedd hi'n gwybod bod ganddi haint MRSA nes iddi gael ei chludo i'r ysbyty.

Dywedodd Mrs Morris wrth yr ymchwiliad hefyd nad oedd ei modryb yn aml yn gwisgo ei dillad ei hun ac nad oedd hi'n gallu deall sut roedd ganddi ewinedd bysedd budr pan nad oedd hi'n symudol.

Roedd wedi codi'r materion gyda gweithiwr cymdeithasol Edith Evans, meddai, a dywedodd y gallai'r cartref cyfan fod wedi gwneud gyda glanhad.

'Difaru peidio mynd â phethau ymhellach'

Yn y cyfamser, dywedodd gweithiwr cymdeithasol wrth y cwest nad oedd adolygiad a wnaeth i ofal Edith ym Mrithdir yn "ddigon cadarn".

Dywedodd Kerry Goodwyn wrth y cwest ei bod yn ymwybodol bod "pryderon cyffredinol" am y cartref gofal ond nad oedd "digon o gig ar yr esgyrn".

Dywedodd Ms Goodwyn wrth y crwner, Geraint Williams, nad oedd ei hymchwiliad ei hun i ofal Edith Evans "hyd eithaf fy ngallu".

Doedd hi heb weld y tiwb bwydo yn stumog Edith Evans er gwaethaf y pryder a godwyd gan aelodau'r teulu, meddai.

Roedd hi'n ymddiried mewn nyrs i wneud hynny, meddai, er nad oedd tystiolaeth bod asesiad nyrsio wedi'i gynnal ar ôl gofyn amdano.

Dywedodd wrth y crwner: "O edrych yn ôl y dylwn fod wedi mynd â phethau ymhellach, mynd i fyny ac archwilio a bod yn fwy uniongyrchol a herio mwy - rwy'n difaru na wnes i."

Mae'r cwest yn parhau.