Cwest cartref gofal: Ymddiheuro am 'fethu ymdopi'

  • Cyhoeddwyd
Brithdir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cartref gofal bellach dan reolaeth cwmni newydd

Mae nyrs wedi dweud ei bod hi'n ddrwg ganddi fod trigolion cartref gofal yn Sir Caerffili wedi dioddef oherwydd ei bod hi "wedi cael trafferth ymdopi" â'i swydd.

Mae Daphne Richards wedi bod yn rhoi tystiolaeth mewn cwest i farwolaethau saith o bobl yng nghartref gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd.

Ymgyrch Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn cyfres o gartrefi gofal yn y de-ddwyrain rhwng 2005 a 2009.

Roedd wedi costio £11.6m.

Clywodd y cwest fod Ms Richards wedi dechrau gweithio yng nghartref Brithdir ym mis Chwefror 2003.

Dywedodd y nyrs gofrestredig oedd â dros 35 mlynedd o brofiad yn y maes ei bod hi'n teimlo nad oedd hi'n gallu ymdopi gyda'r llwyth gwaith.

Bylchau yn y cofnodion

Bu farw'r cyn-weithiwr dur Stanley James, 83, yng nghartref Brithdir yn 2003.

Clywodd y cwest bod ei nodiadau meddygol yn awgrymu fod Mr James yn dioddef o friwiau pwysau.

Roedd ganddo gynllun gofal personol oedd yn dweud ei fod angen matres arbennig a bod angen ei droi yn rheolaidd.

Roedd bylchau yn y cofnodion a doedd hi ddim yn glir a oedd staff yn ei droi, yn ôl y cynllun.

Bu farw Mr James gyda niwmonia a dementia ond yn ôl adroddiad gan yr arbenigwr, yr Athro Malcolm Hodkinson, roedd y briwiau wedi cyfrannu rhywfaint at ei farwolaeth.

Gofynnodd crwner cynorthwyol Gwent, Geraint Williams, wrth Ms Richards a oedd hi'n cofio gofalu am Stanley James.

"Ydych yn derbyn, o ystyried mai eich cyfrifoldeb chi oedd rhoi'r gofal i ryddhau pwysau, a'ch bod ddim wedi gwneud, bod y doluriau wedi datblygu a'ch bod chi'n rhannol gyfrifol am gyfraniad hynny at ei farwolaeth?" gofynnodd y crwner.

"Ydw, dwi'n gwybod," atebodd Ms Richards.

'Diffyg gofal ysgytwol'

Ar ddiwedd ei thystiolaeth, gofynnodd y crwner i Ms Richards am ei hasesiad o'r gofal a roddwyd i Stanley James.

"Mae'r hyn rydych chi wedi'i ddisgrifio yn dangos diffyg gofal ysgytwol tuag at Mr James. A fyddech chi yn derbyn hynny?" gofynnodd Geraint Williams.

"Byddwn," atebodd Daphne Richards.

"Diffyg gofal y gellid ei ddisgrifio fel 'gwirioneddol eithriadol o ddrwg'?" meddai'r crwner.

"Ie," atebodd Ms Richards.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn 2004, Daphne Richards oedd yr unig nyrs gofrestredig ar ddyletswydd yn y cartref

Dywedodd Daphne Richards bod ei henw wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr nyrsio am ofal gwael yn 2015.

Eglurodd Ms Richards bod tair o nyrsys cofrestredig yn gweithio yn y cartref yn wreiddiol ond bod lefelau staffio wedi dirywio.

Erbyn 2004 hi oedd yr unig nyrs gofrestredig ar ddyletswydd ac yn y pen draw fe gafodd hi orchymyn i reoli'r cartref.

"Chefais i ddim cyfweliad ar gyfer y swydd honno a doedd gen i ddim profiad rheoli," meddai.

"Roedd o'n llawer gormod o waith a doeddwn i ddim yn gallu gofalu am bobl yn y cartref.

"Fe wnes i foddi mewn ffurflenni ac fe wnaeth hynny gymylu fy marn.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli'r cyflwr meddwl roeddwn i ynddo ar y pryd.

"Eglurais i'r pennaeth, Mr Black, a gofyn a fyddai'n gallu dod o hyd i rywun arall i wneud y gwaith. Doedd o ddim ac roedd yn rhaid i mi fwrw 'mlaen gyda'r gwaith.

"Mae'n ddrwg iawn gen i fod pethau wedi troi allan felly - a bod y preswylwyr wedi dioddef oherwydd fy mrwydr i ymdopi."

'Gweithio ar fy mhen fy hun'

Clywodd y cwest hefyd fod staff y cartref yn aml yn cwblhau'r nodiadau nyrsio er nad oedden nhw wedi gweld y preswylwyr y diwrnod hwnnw.

"Oeddech chi'n ymwybodol bod hynny'n digwydd?" gofynnodd y crwner.

"O'n, mi o'n i'n ymwybodol ond doedd gen i ddim rôl yn hynny," atebodd Daphne Richards.

Pan ofynnwyd iddi pam na adawodd ei swydd pan ddaeth yn ormod yn 2004, dywedodd ei bod hi yn teimlo bod angen aros.

"Meddyliais am ymddiswyddo a cherdded i ffwrdd ond roeddwn yn teimlo bod angen i rywun fod yno," meddai.

"Efallai y byddai wedi bod yn well pe bawn i wedi ymddiswyddo a cherdded i ffwrdd. Fi oedd yr unig nyrs gymwys ar ôl yno. Roeddwn i'n gweithio'n rheolaidd ar fy mhen fy hun."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth achos yn erbyn Dr Prana Das i ben yn 2013 ar ôl iddo ddioddef anafiadau i'w ymennydd ar ôl lladrad yn ei gartref

Fe gafodd Ms Richards ei holi am Paul Black, prif weithredwr cwmni Puretruce, perchennog y cartref gofal, a Dr Prana Das, un o gyfarwyddwyr y cwmni.

Daeth achos yn erbyn y ddau i ben yn 2013 ar ôl i Dr Das ddioddef anafiadau i'w ymennydd ar ôl lladrad yn ei gartref yn 2012.

Bu farw Dr Das y llynedd ond mae disgwyl i Paul Black roi tystiolaeth wrth i'r cwest barhau.

"Doeddwn i ddim wir yn ymwneud llawer gyda fo. Byddai'n dod i'r cartref yn achlysurol," meddai Daphne Richards.

Gofynnodd y crwner a oedd hi wedi sôn am broblemau ei llwyth gwaith i Dr Das.

"Wnes i ddim oherwydd nad oedd yno ond dywedais wrth Mr Black ac roedd y ddau yn siarad yn aml."

Mae disgwyl i'r cwest barhau tan ganol mis Mawrth a bydd tystiolaeth hefyd ynglŷn â marwolaethau trigolion eraill y cartref gofal - June Hamer, 71, Stanley Bradford, 76, Edith Evans, 85, Evelyn Jones, 87, a William Hickman, 71.

Pynciau cysylltiedig